Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I dtaffaUI (Sfllujgsifl. HANES SAMUEL, GANDDO EI HUN. Yr oedd genyf fam dda. Hi a roddodd fy enw i mi am iddi weddio ar Dduw ar iddo roddi pìentyn iddi i'w garu ac i ofalu am dano. Rhoddodd Duw fi iddi. Ystyr fy enw yw, " Un a archwyd gan yr Arglwydd." Atebiad i weddi fy mam wyf fì. Cbwi ellwch fod yn sicr fod fy mam yn anwyl iawn o honaf; er hyny ni chefais aros gyda hi ar ol fy mod yn dair blwydd oed. Yr ydych yn rhyfeddu am hyn. Y rheswm o hyn oedd, fod fy mam wedi dweyd wrth Dduw os y gwelai Ef fod yn dda i roddi bachgen iddi i'w garu, y gwnai hithau ei roddi itldo Ef yr holi ddyddiau y byddai efe byw. Felly, panoeddwn yn dair oed, dygodd fy mam fi i Siloh. Dyna lle yr oedd arch Duw y pryd hwnw yn aros yn y babell. Yr amser y dygwyd fi i Siloh yr oedd yr offeiriad yn ben wr. Eli oedd ei enw. Yr oedd ef yn wr duwiol, ond yr redd ganddo feibion drwg iawn, yn pechu yn uchel yn erbyn yr Arglwydd, ac nid oedd ef byth yn dweyd wrthynt ám cu drwg a'u ceryddu am eu pechod. Yr wyf yn dweyd hyn wrthych, am mai y waith gyntaf y llefarodd yr Arglwydd oedd yn eu cyìch hwy. Mae gair Duw am danynt wedi dyfod i ben. Plentyn oeddwn i pan gymmerodd b"~. !e. Yr oeddwn yn gwasanaethu yn' nheml yr Arglwydd, ac yr oeddwn yn ddedwydd iawn. Deuai fy mam i'm gweled unwaith bob blwyddyn, a'm tad gyda hi. Bob tro y deuai hi dygai i mi fantell feehan. Nid oes eisieu i mi ddweyd wrthych fy mod yn falch iawn i weìed fy nhad a'm mam bob blwyddyn a chael eu bendith. Yr oeddwn hefyd yn falch iawn o'r fantell fechan a ddygai fy mam i mi—gwaith ei dwylaw ei hun. Am resymau ereill, yr oedd genyf fwy o olwg ar yr ephod liain oeddwn yn wisgo, am fod hòno yn arwydd fy mod yn was i'r Arglwydd. Yr oeddwn yn hoff iawn o'r hen wr duwiol Eli, ac yr oedd yntau yn hoff o 166—Hydref, 1880.