Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$8fa!U Ŵflluipij. ENWOGION Y BEIBL. (Parliâd o dudal, 200.) DAFYDD. Yr oedd Dafydd, mab Iesse, eneinîog Duw Iacob, a pher ganiedydd Israel, yn uu o enwogion penaf y Beibl. Yr oedd yn un o'r henuriaid y rhai trwy ffydd a gawsant air da. Efe a ddyrchafwyd yn ucbel» a Duw a " wnaeth enw mawr iddo, megys enw y rhai mwyaf ar y ddaiar." Yr oedd ei alluoedd naturiol yn fawr ac yn amryw; yr oedd natui- wedi bod yn ffafrioî iddo—yr oedd wedi agoryd ei llaw a'i ddiwallu yn helaeth â'i doniau; yr oedd wedi gwisgo ei gorff' â phrydferthwch, ac addurno ei feddwl â'i dewis roddion. Yr oedd wedi rhoddi corff llunîaidd a hardd iddo—ni sonir arn ei faintioli pa un ai bychan ai mawr ydoedd, oud nodir yn neillduol ei harddwch. Ni ddywedir fod iddo fel i'w frawd Eiiab uchelder corffolaeth, neu ei fod fel Saul " o'i ysgwydü i fyny yn uwch na'r holl bobl;" ond dangosir ei fod o ran tegwch ei bryd " oll yn hawddgar ac yn rhagori ar ddeng mil." Fua yr ym- ddangosodd yn llanc o flaen Samuel y Prophwyd, dywedir am dano mai " gwridgoch oedd, a theg yr olwg a hardd o wedd." Y geiriau Hebraeg a gyfîeithir " teg yr olwg"— eu hystyr llythyrenol yw " teg ei ddau lygad," a dangosant fod ganddo ddau lygad hardd fel lîygaid colomenod wedi eu gosod fel gemau yn gymhwys yn eu Ue. Yr oedd yn ddyn hoew a gwisgi ei gorff, yr oedd yn gyflym ei droed, yn rymus ei fraich, yn ddeheuig ei law, ac yn gryf ei gefn. Yr oedd ei draed fel traed ewigod, ac â'i fraich efe a ddrylliai fwa dur. Dangosodd rym ei fraich pan yr ymaflodd ym marf y llew ac y tarawodd ac y Uaddodd ef; ac a ddangosodd ddeheuigrwydd eî law yn gystal a grym 165—Medi, 1880.