Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<Waiîl tfglugfti]). ENWOGION Y BEIBL. SAUL. {Parhád o dudal. 172.) Yn ein rhifyn diweddaf o'r Cyfaill nodasom am Saul ei fod yn amddifad o'r ffydd " trwy yr hon y cafodd yr hen- uriaid air da"—y ffydd trwy yr hon y cafodd " Enoch dystiolaeth ddarfod iddo ryngu bodd Duw "—y ffydd trwy yr hon y " gwnaethpwyd Noah yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd "—a'r ffydd trwy yr hon yr " etifeddodd Ab- raham yr addewidion." Nid oedd Saul yn meddiannu y ffydd hon, ac i hyn gellir priodoli gwendid ei gymmeriad ac anwadalwch ei ymddygiad : yr oedd " yn anwastad jpn ei holl ffyrdd." Enghreifftiau o hyn a ymddengys yma a thraw yn hanes ei fywyd : gwendid ac anwadalwch ya barhäus a hynodant ei gymmeriad yn ei holl symmud- iadau. Gwelir yr hynodiou hyn yn ei gymmeriad yn Gilgal, pan yr anturiodd ac yr offrymodd boeth-offrwm yn groes i air Duw, Yr oedd y Philistiaid wedi ymgasglu i'w erbyn, ac yr oedd y bobl wedi ymwasgaru oddi wrtho, ac ni ddaethai Samuel eto yn ol yr amser gOBodedig, ac yntau a wnaeth yn ynfyd, gan droseddu gorchymmyn yr Arglwydd yr hwn a orchymmynodd Efe iddo, ac a offrym- odd y poeth-offrwm (1 Sam. xiii. 8—17). Gwelir yr un ynaddygiad yn achos ei hb Ionathan. Ionathan a daraw- odd amddiffynfa y Philistiaid, ac ennillwyd buddugoliaeth arnynt; a thra yr oedd Saul a gwŷr Israél yn erlid y Phil- istíaid, efe yn byrbwyll a " dyngedodd y bobl, gan ddy- wedyd, MeEtigedig fyddo y gwr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf fy ngelynion." Ond Ionathan, yr hwn ni wyddai am Iw ei dad, a estynodd ffaen ei wialen, *ea'i gwiychodd yn nil y mêl. ac a drodd ei law at ei 164—Awst, 1880.