Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$îfaîn ê%\w%%\%. ENWOGION Y BEIBL. (ParMd o dudal. 143.) SAÜL. Saul, mab Cis, o lwyth Beniamin, oedd brenin cyntaf Israeì. Braidd y gellir ei osod ym mhlith enwogion y Beibî. Nid ymddengys rhinweddau yn ei gymmeriad a roddant enwogrwydd iddo; ond eto mae hyuodrwydd yn perthyn i'w hanes ag sydd yn deilwng o'n syíw. Ynddo y gwelwn ddyn o gymhwysderau bvchain, ac ''ansafadwy fel dwfr," yn cael ei alw i lenwi sefyllfa uchel a phwysig mewn amseroedd enbyd ac yng nghanol auhawsderau mawrion yn y wladwriaeth. Dewiswyd ef yn flaenor a gosodwyd ef yn frenin ar Israel pan yr oedd y wlad yn caeì ei gorthrymu gan eîynion estronol, a phan yr oedd y genedl o ran ei threfniadau a'i chyflwr tufewnol mewn sefyìlfa wael a dirywiedig; oud efe a fethodd â chyflawnu y dyledswyddau pwysig a osodwyd arno, a'i fethiant a derfynodd mewn canlyniadau anffodus a dinystriol i'r wlad a'r genedl. Yr oedd yn ddyn hardd ;t phrydferth o goríf. Dy wedir am dano ei fod yn " wr ieuanc dewisol a glân, ac nid oedd neb o feibion Israel yn lanach nag ef, a'i fod o'i ysgwydd i fyQy yn uwch na'r holl bobl." Efe a wnaethpwyd yn frenin trwy benodiad Duw, ac nid ar ei gais ei hun ; daeth y freniniaeth iddo yn annys- gwyliadwy. Wrth chwilio am asynod ei dad, y rhai oedd- ynt wedi eu cyfrgolli, efe a ddaeth yn ymddangosiadol ar ddamwain, ond mewn gwirionedd o dan arweiniad rhag- luniaeth, i gyssylltiad â Samuel y prophwyd, yr hwn a'i heneiniodd trwy orchymmyn Duw yn frenin ar Israel; ac efe o'r dydd hwnw allan oedd fel brenin yn Cîeneiniog yr 163—Gorphenaf, 1880.