Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 <$2ffdM Ŵ.gl»g»ij. ENWOGION Y BEIBL. SAMUEL (Parhâdo dudal 116.) Yiì ydym yn parhau ein sylwadau yng nghylch Samuel. Yr oedd efe yn farnwr yn gystal a phrophwyd yn Israel. Fel yr oedd efe y cyntaf o'r prophwydi yn yr oîyuiaeth a'i canlynodd, felly efe oedd y diweddaf o'r barnwyr a'i rhagflaenodd, er dyddiau Othniel, mab Cenas, brawd Caîeb, y cyntaf o honynt. Y barnwyr oeddynt swyddwyr neillduol ac anghyffredin yng ngwladwriaeth Israel. Ni ddewisid hwynt gan y bobl; ni pherthynent i unrhyw lwyth neu deulu neillduol fel yr offeiriad ac wedi hyny y breninoedd, ond cynhyrfid hwynt yn uniongyrchoî. fel y prophwydi, gan Ysbryd Duw at eu gwaith. Efe a'u cyfodai i fyny i fod yn waredwyr i Israel mewn amseroedd o adfyd ac enbydrwydd; ac felly, tra y bu y genedl yn cael ei llywodraethu gan farnwryr, dywedir fod Duw, mewn ystyr uniongyrchol, yn frenin iddynt. 1 Sam. xii. 12. Ynyr holl ddygwyddiadau a gymmcrent le yv Arglwydd sydd yn ymddangos yn uniongyrchol ym mhlith y bobl. Nid oedd y barnwr a gyfodai Efe i fyny, ac y cynhyrfai ei Ysbryd, ond offeryn yn ei law. Gwelir byn wrth ddar- llen Llyfr y Barnwyr. Yma dangosir Duw yn "oll yn oll" i'r bobl yn eu cyfyngderau a'u peryglon. Efe ac nid dyn oedd eu brenin; a phan gyfodai dynion yn waredwyr iddynt, gwnaî yn eglur nad oeddynt ddim amgen nag offerynau yn llaw eu Duw at y gwaith ag oedd i gael ei gyflawnu. Felly un o'r barnwyr hyn oedd Samuel, ac efe oedd yr olaf o honyàt. Fel barnwr efe a waredodd Israel oddi wrth y Philistiaid; a phan y cyfodwyd ef at y gwaith 162—Méhefin, 1880.