Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<Ç8Í»HI Ŵglrogaij). ENWOGION Y BEIBL. SAMUEL. (ParMd o dudal. 59.) Yr ydym yn parhau ein sylwadau ar Samuel. Yr oedd efe, fel yr ydym yn barod wedi sylwi, yn brophwyd, ac yr oedd yn benaf o'r prophwydi. Llefarir am dano mewn dull neillduol fel Samuel y prophwyd. Yr oedd ei oes yn gyfnod newydd yn hanes y prophwydi, ac wedi ei ddyddiau parhaodd olyniaeth o brophwydi ym mhlith y genedl hyd ddyddiau Malachi, y diweddaf o honynt. Yn ei ddyddiau ef daeth yr enw " propbwyd " i arferiad cyffredinol, fel yr ydym yn darllen yn 1 Sam. ix. 9: " Y prophwyd heddyw a elwid gynt yn weledydd." Yr enw "gweledydd" a gyfeiria at y dadguddiad a dderbyniai y meddwl oddi wrth Dduw, ond yr enw "prophwyd" a gyf- eiria at y genadwri a draethai y geneu. Y gair " gwel- edydd" a olygai fod Ysbryd Duw yn agor Uygad y meddwl i ganfod y gwirionedd, ond y gair " prophwyd" a olyga ei fod yn agor y geneu ac yn ei gyfarwyddo i lefaru y gwirionedd a ddadguddid i'r meddwl. Felly wrth gyf- newid yr enw o weledydd i brophwyd, dangosid fod y gweledyddion o hyn allan i fod mewn ystyr uwch ac hel- aethach yn ddysgawdwyr i'r genedl. Yr oeddynt mwyach yn brophwydi; yr oedd Duw i lefaru trwy eu geneu, ac felly bu. Hyd oes Samuel yr offeiriaid yn benaf oeddynt ddysgawdwyr y .bobl, ond wedi ei oes ef prophwydi oedd- ynt eu prif athrawon. Hefyd cyn dyddiau Samuel, fel yr ydym yn darllen yn Llyfr y Barnwyr, pan fyddai Ysbryd Duw yn dyfod ar ddyn, dangosai hyny yn benaf trwy weithreàoedd o wroldeb, fel y gwelir yn hanes Samson, 161— Mai, 1880.