Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Igfaíll ÖjIiügBij. HOLWYDDOREG POBLOGAIDD AR YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH. RHAN III.—PARHAD. Robert. Pa fodd y mae yn America ? George. Mae pob credo wedi ei osod ar dir cydraddoldeb períFaith ; derbynir pob un o honynt y naill fel y llall. R. Beth yw cyflwr y llywodraeth ag sydd fel hyn yn parchu ac yn amddiffyn pob credo fel eu gilydd. G. Mae hi yn hunan-gondemniedig. Os oes dau gredo, a'r naill yn gwahaniaethu oddi wrth y lla.ll, rhaid fod un o honynt yn anwireddus, ac os yn anwireddus, yn gableddus. Mae'r llywodraeth, gan hyny, ag sydd yri gwneyd y ddau yn ogystal yn ei chymmeradwyaeth a'i nawdd yn hunan- gondemniedig, am ei bod o'i gwirfodd yn cymmysgu gwirionedd â thwyll. Mae hi yn cadarnhau " y gosodiad angeuol nad oes gan grefydd un sylfaen, neu, o leiaf, y gellir ymdrin â hi (yr hyn sydd yr un peth o ran sylwedd) fel pe na byddai ganddi un sylfaen o'r tu allan i feddwl dyn, ac felly yn ei hamddifadu o bob perthynas â Duw, ie, ac yn ei gwneyd yn felltith yn hytrach na bendith." R. Beth ydyw eyflwr y llywodraeth ag sydd yn alltudo crefydd allan o'r deyrnas. G. Yng ngeiriau awdwr " Y Wladwriaeth yn ei pherth- ynas â'r Eglwys," " Pan ddinystrier y cyssylltiad sydd rhwng crefydd a'r wladwriaeth, aiff y llywodraeth yn naturiol yn ddidduw." R. Gellir dywedyd, er nad ydyw America yn cefnogi unrhyw sefydliad crefyddol, eto fod gweddiau yn cael eu hoffrymu, neu eu dywedyd yn drefnus a rheolaidd, yn ei chymmanfa genedlaethol. , 160—mriU, 1880.