Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$îlfaÌH tëglflgaifl. ENWOGION Y BEIBL. SAMÜEL. (Parhâd o dudal. 31.) Yr ydym yn parhau ein sylwadau ar Samuel. Yr oedd efe yn brophwyd; yr Arglwydd a ymeglurhaodd iddo trwy air yr Arglwydd yn Siloh; yr oedd yr Arglwydd gydag ef, ac ni adawodd i un o'i eiriau ef syrthio i'r ddaiar, a gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai prophwyd ffyddlawn yr Arglwydd oedd efe. Nid prophwyd cyffredin oedd chwaith. Gelwir ef mewn ystyr arbenig, "Samuel y Prophwyd." Actau xiii. 20. Mae iddo ei safle neill- duol priodol iddo ei hun ym mhlith y prophwydi, ac yr oedd ei fywyd yn gyfnod newydd yn eu hanes. Mae yr ymadroddion a ddefnyddir wrth gyfeírio ato yn y Testa- ment Newydd yn golygu hyn. Felly ymadrodd Pedr, pan ddywedodd, yn Actau iii. 24, "A'r holl brophwydi nefyd o Samuel, ac o'r rhai wedi, gynnifer ag a lefarasant, a ragfynegasant am y dyddiau hyn." Felly hefyd yr ymadrodd yn yr Epistol at yr Hebreaid (xi. 32): "A Samuel a'r prophwydi." Yn ei ddyddiau ef daeth yr enw "prophwyd" i arferiad cyffredinol yua mhlith y bobl. Felly yr ydym yn darllen yn 1 Sam. ix. 9: "Y prophwyd heddyw a elwid gynt yn weledydd." Yr oedd y gair mewn arferiad yn nyddiau Moses. Defnyddir ef ganddo, a cheir ef yn ei ysgrifeniadau. Yn Gen. xx. 7 gelwir Abraham yn "brophwyd." Yn Ecsodus vi. 1, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Moses: " Gwel, mi a'th wnaethym yn Dduw i Pharaoh; ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau j" ac yn pen. xv. 20 gelwir Miriam yn " brophwydes;" ac yn Num. xi. 25, dywedir i'r Ysbryd orphwys ar y deg hynafgwr a thrigain, ac iddynt 159—Mawrth, 1880.