Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| flfgjfatU (Sgluipij. ENWOGION Y BEIBL. {Parhâd o dudal. 3.) SAMUEL. Mae Samuel yn sefyll yn uchèl ym mhlith enwogion y Beibl. Efe a hynododd yr oes yn yr hon y bu byw; efe a adawodd argraff ei gymmeriad arni, ac a'i gwnaeth yn gyfnod newydd yn hanes ei genedl. Yr oedd yn ddiar- gyhoedd a difrycheulyd yn ei ymarweddiad; yr oedd yn wladgarwr yn ystyr oreu y gair. Efe a geisiodd nid, ei lesâd ei hun, ond llesâd ei genedl, ac efe a'i gwasanaethodd yn ffyddlawn yn ol ewyllys Duw. Yr oedd yn farnwr ac yn brophwyd yn Israel, ac ar amserau, er nad oedd yn offeiriad o deulu Aaron, efe a gyflawnai ranau o'r swydd offeiriadol. Yr oedd yr oes yr oedd yn byw ynddi yn adeg o'r enbydrwydd mwyaf yn hanes ei genedl; yr oedd mewn perygl o gael ei llwyr ddymchwelyd gan ei gelynion, ac o golli ei bodolaeth fel " Gwladwriaeth Israel." Ond Samuel a gyfodwyd yn waredwr iddynt; efe a ym- ddangosodd fel barnwr ac fel prophwyd yn eu plith; efe a ddychwelodd y gelynion yn y porth, ac a yrodd fyddinoedd yr estroniaid i gilio; efe a ailffurfìodd y wladwriaeth, ac a sicrhaodd i'r genedl wlad eu hetifeddiaeth. Edrychir arno yn ail i Moses yn unig o ran y gwaredigaethau a ennillodd i'w genedl oddi wrrth elynion estronol, ac o ran y gwaith tufewnol a gyflawnodd ym mhlith y bobl. Yr oedd yn ddyn hynod trwy ei oes. Yr oedd ei enedigaeth yn hyriòd. Yr oedd ganddo fam dduwiol. Bu yn hir yn ammhlantadwy, ac yr oedd diffrwythder ei chroth yn brofedigaeth chwerw iddi; ond hi a nesaodd at ei Duw mewn gweddi; tywalltodd ei henaid ger ei fron; o amldra ei myfyrdod a'i blinder y 158—Chwefror, 1880.