Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

$ (Çgfaill (gglitMîstp, ENWOGION Y BEIBL. HESECIAH. (Parhâd o dudal. 312.) Yr ydym wedi sylwi ar y diwygiadau crefyddol a'r gwaredigaethau oddi wrth elynion estronol y rhai a hynodeut oes Hesecîah, ac y mae un hyuodrwydd arall yn ei oes yr hwn a deilynga em sylw neillduol, a hwnw ydyw nifer y prophwydi ag oeddyut yn byw yn y cyfuod hwnw. Dyna'r oes yr oedd Esai yn byw ynddi, fel y dywedir yn y bennod gyntaf a'r adnod gyutaf o lyfr ei brophwydol- iaethau; ac efe a gymmerodd rau fawr yn y dygwydd- iadau pwysig y rhai a gymmerasant le o dan deyrnasiad Heseciah. Yr oedd y pryd hwn yn tynu at derfyn ei ddyddiau, a dywedir, trwy draddodiad ym mhlith yr Iuddewon, iddo gael ei osod i farwolaeth gan Manasseh, mab ac olynydd Hesecîah. Yr oedd Esai yn un o'r rhai mwyaf ac helaethaf ei ysgrifeniadau ym mhlith prophwydi yr Hen Destament. Nid oes un o honynt wedi llefaru mor eglur ac mor helaeth am y Messiah ag Esai. Mae ei brophwydoliaeth, yn pen liii. o'i lyfr, am Grist yn ei ddarostyngiad, ei ddyoddefaint, ei angeu, ei adgyfodiad, a'i esgyniad yn debygach i hanes nag i brophwydoliaeth Ceir yn y bennod hon agos bob pwnc a ffaith yng Nghredo yr Apostolion am Grist yn cael ei nodi, ac y mae yn llefaru yn eglur, croew, a helaeth am yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist ac am alwad y Cenedloedd i ddyfod i gyfran- ogi o honi. 0 herwydd hyn gelwir ef, a hyny gyda phriodoldeb neillduol, " Y Prophwyd Efengylaidd." Hefyd yn oes Hesecîah yr oedd Micah yn byw, fel y dywedir yn pen i. 1. Yr oedd yn cydoesi ag Esai, ac y 157—lonator, 1880.