Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ^ífaill (Sglujpij). ENWOGION Y BEIBL. HESECIAH. {Parhâd o dudal. 284.) Yr ydym yn parhau ein sylwadau ar Heseciah. Nodwn yn bresennol ei waredigaeth o law Sennacherib, breDÌn Assyria. Yr oedd Assyria y pryd hyn yng nghryfder ei nerth; yr oedd wedi darostwng y gwledydd oddi am- gylch; yr oedd wedi gorchfygu Samaria, ac wedi caeth- gludo y trigolion o'u gwlad; ac yr oedd wedi ennill dinasoedd caerog Iwdah, ac yn bygwth Ierwsalem ei hun. Yr oedd pethau yn edrych yn dywyll: yr oedd y brenin a'r genedl, Ierwsalem a'r wlad oll, mewn perygl o syrthio yn ysglyfaeth i law y gorthrymwr. A llefaru yn dd)nol, nid oedd yr un gobaith y gwaredid hwynt o'r dinystr ag oedd yn eu bygwth; ac yn awr edrycbwn ar He8ecîah yn ei "gyfyngder;" gwelwn pa fodd yr ymddygodd. 1. Ei ffydd ef a ddaeth i'r golwg. Ei ffydd a'i cadwodd ef a'i deyrnas yu nydd eu trallod ac yn awr eu cyf- yngder. Trwyddi hi y gorchfygodd ac y bu fyw. Ei dad Ahas ni chredodd ac ni sicrhawyd ef; ond Heseciah a gredodd ac ni frysiodd; credodd ac nis gwaradwyddwyd. Tra yr oedd calonau ei bobl yn cael eu cyffroi megys y cynhyrfir prenau y coed o fiaen y gwynt, yr oedd oi galon ef yn ddisigl yn yniddiried yn yr Arglwydd. Felly y dywedir am dano yn 2 Bren xviii. 5—7: " Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddiriedodd efe, ac efe a lynodd wrtho, ni throdd efe oddi ar ei ol Ef. . . . A'r Arglwydd a fu gydag ef; i ba le byuag yr aeth efe a lwyddodd." Ei ffydd a wnaeth orchestwaith. Trwyddi hi fel yr henuriaid y cafodd air da; trwyddi, fel Enoch, efe a rodiodd gyda 156—Rhagfyr, 1879.