Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

g (fîJfaUI ŵjlwgaij. ENWOGION Y BEIBL. HBSECIAH. (Parhâdo dudal. 256.) Nodasom yn ein rhifya diweddaf i Hesecîah, pan yr esgynodd i'r orsedd, wneuthur diwygiadau mawrion mewn crefydd; efe a lauhaodd y wlad o eilunaddoliaeth a choelgrefyddj efe a adgyweiriodd y deml, ac a adferodd ei haddoliad; efe a daenodd wybodaeth o Dduw ym mhlith y bobl, ac a'u dychwelodd hwynt ato Ef, i'w ofni ac i gadw ei orchymmynion. Darparodd y diwygiadau hyn y genedl i gyfarfod â'r amser blin ac enbyd ag oedd yn dyfod ar y wlad. Heseeiah a'r bobl a ddychwelasant at Dduw eu tadau, ceisiasant Ef, ac ymddiriedasaut ynddo, ac Efe a'u gwaredodd hwynt o ìaw brenin Assyria. Yr oedd Assyria yn ei ddyddiau ef yn fawr ei rhwysg, ac yn gadarn ei nerth. Yr oedd y pryd hyny wedi cyrhaeddyd pinacl eithaf ei hawdurdod a'i hanrhydedd; yr oedd fel y dywed y prophwyd Eseciel fel " cedrwydden yn Libanus, yr hon sydd yn ymddyrchafu ei huchder goruwch coed y maes." Eisteddle ei llywodraeth oedd Ninefeh, yr hon oedd yn sefyll ar yr afon Tigris; yr oedd wedi taenu ei hadenydd dros yr holl wledydd o du y gor- Uewin iddi hyd derfynau gwlad Canaan. Yr oedd wedi darostwng y gwìedydd hyn oll i'w llywodraeth. Yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Heseciah yr ennillodd ei brenin, Salmauaser wrth ei enw, Samaria, ac a gaethgludodd y deg llwyth i Assyria; yr Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn ei law ef, am na wrandawent ar lais yr Arglwydd eu Duw, ond troseddasant ei gyfammod Ef, a'r hyn oll a orchymmynodd Moses iddynt. Efe a'u bwriodd hwynt allan, ac a waghaodd y wlad o honynt fel 155—Tachwedd, i 879.