Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfäUI (Êgliüptfi. ENWOGION Y BEIBL. HESECIAH. Enwogion y Beibl yn amser caethiwed Babilon ac wedi dychweliad y genedl i'w gwlad sydd hyd yn hyn wedi cael ein sylw. Amser blinder oedd hwn i Iacob; tynimor cymylog, tymmestlog, ac helbulus oedd i Eglwys Dduw; ond yr oedd gan Dduw ei dystion pryd hyny: yr oeddynt yn ser o'r maintioli mwyaf, ac yr oedd Efe yn eu dal hwynt yn ei ddeheulaw. Efe a'u cyfododd hwynt i fyny i ddybenion neillduol. Gwasanaethasant eu cenedlaeth yn eu dydd, ac yna casglwyd hwynt at eu tadau. Yr oedd- ynt fel canwyllau yn llosgi ac yn goleuo ac yn llewyrchu mewn Ue tywyll. Yr ydym yn awr yu troi ein sylw at Heseciah, brenin duwiol Iwdah, ac fe ddichon yr aroswn am rai misoedd gydag ef a'i amserau. Nid ydym fel hyn yn drefnus yn ein sylwadau ar euwogion y Beibl; ond y mae teyrnasiad Heseciah yn gyfnod hynod a phwysig yn hanes y genedl Iuddewig; mae yn llawn addysgiadau, ac ni a obeithiwn y bydd ein myfyrdodau arni o fudd ac adeiladaeth i'n darllenwyr. Yn y fiwyddyn o ddeutu 726 cyn Crist, Heseciah a ddechreuodd deyrnasu. Yr oedd yn bum mlwydd ar hugain oed pan yr esgynodd efe i'r orsedd, ac efe a deyrn- asodd naw mlynedd ar hugain. Yr oedd ei dad Ahas, yr hwn oedd yn rhagfiaenydd yn y deyrnas, yn ddyn annuw- iol. Ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw; efe a rodiodd yn ffyrdd breninoedd Israel, ac a dynodd ei fab trwy'r tân yn ol ffieidd-dra y Canaaneaid; efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr \U-~Hydref. 1879.