Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f <$BjaiII <Bflluifísîg. ENWOGION Y BEIBL. MALACHI. Nid ydym yn gwybod ond ychydig am Malachi. Yr oll a wyddom am dano, yr ydym yn ei gael yn lìyfr ei bro- phwydoliaethau. Ni ddywedir wrthym pwy oedd ei dad, nac i ba deulu y perthynai; ac m ddywedir chwaith pa bryd y ganwyd ef, na pha bryd y bu farw, ond gellir casglu oddi wrth ei brophwydoliaethau ei fod yn byw wedi adeiladiad yr ail deml, a phan oedd y llygredigaethau o'r rhai y diwygiodd Nehemîah y bobl yn ffynu yu eu plith, ac felly gellir casglu ei fod yu cydoesi â Nehemiah. Fel yr oedd y prophwydi Haggai a Sechari'ah yn cryfhau dwy- law ac yu cefnogi Sorobabel yn y gwaith o ailadeiladu y deml, felly gellir meddwl fod Malachi fel cenad Arglwydd y lluoedd yn cynnorthwyo ac yn cyfnerthu Nehemiah yn y diwygiadau yr oedd yn dwyn ym mlaen ym mhlith y bobl. Ystyr ei enw, Malachi, yw "fy angel," neu "fy nghenad." Yr oedd wedi ei anfon at y bobl, ac yr oedd cenadwri Duw yu ei enw. Prophwyd oedd,-a'r diweddaf o brophwydi yr hen oruchwyliaeth, a'i lyfr yw y diweddaf o lyfrau canouaidd yr Hen Destament. Pan bu efe farw diflanodd ysbryd prophwydoliaeth o blith y genedl; hirnos a ganlyuodd; seliwyd y weledigaeth a'i brophwydoliaeth; ni chyfododd ua gweledydd ua phrophwyd yn Israel am liedwar cant o fìynyddoedd. Ioan Fedyddiwr, rhagflaenydd ein Harglwydd, 'oedd y prophwyd nesaf i Malachi. Yr oedd efe, fel y dywed ein Harglwydd, yn brophwyd ac yn fwy ua phrophwyd. Dywedir am dano, fel am bro- phwydi yr Heu Destament, i " air yr Arglwydd ddyfod ato;" ac felly ysbryd prophwydoliaeth a ddiflanodd gyda 153—Medi, 1879.