Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I íjf-alll ŵgliüpis. ENWOGION Y BEIBL. ESECIEL. Esbciel, fel Daniel a Mordecai, oedd un o blant y gaeth- glud yn Babilon. Yn Babilon yr oedd yn prophwydo, ac yno y bu efe farw. Tybir oddi wrth pen. i. 2 iddo gael ei ddwyn i Babilon yng nghaetbgludiad Ioachin (2 Bren. sxiv. 10—16), ac oddi wrth pen. i. 1 ei fod yn ddeg ar hugain oed pan ddechreuodd brophwydo. Fel Ieremiah, yr oedd yn offeiriad yn gystal ag yn brophwyd. Yehydig o'i hanes a geir, a'r ychydig hyny a roddir yn Uyfr ei brophwydoliaethau. Y chwedlau luddewaidd yn ei gylch ydynt ddisail; nis gellir gosod coel arnyut; ac felly yn ein sylwadau ar hynodion ei gymmeriad nis gallwn ymddihyuu ond ar ei ysgrifeniadau ef ei huu; hwynt-hwy yw yr unig ddrych yn yr hwn y gwelir pa fath ddyn ydoedd, ac yu y drych hwn y dangosir yn benaf ei gymmeriad cyhoeddus; yma y gwelir y dull a'r modd y cyflawnodd ei swydd fel prophwyd. Yr oedd yn wyliedydd i dy Israel; efe a safai ar y tŵr, ac yr oedd i rybuddio y ddinas pan ddeuai cleddyf ar y wlad, ac efe a wnai hyny yn ffyddlawn. Pan welai y drwg yn dyfod efe a udganai yr udgorn; dangosai y perygl i'r bobl, a mynegai iddynt ffordd y bywyd. Yr oedd ganddo lygad craff; efe a welai ym mhell, ac yr oedd ei lygad yn effro. Nid oedd efe yn debyg i'r gwyliedydd- ion deillion, am y rhai y dywed Esai mai " cŵn mudion oeddynt heb fedru cyfarth, yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian." Ni feddiaunai ar deimladau tyner Ieremîah. Ni phro- phwydai fel y prophwyd hwnw â'r deigryn ar ei rudd: meddwl gwreiddiol a deall grymus, ac nid teimlad dwfn a thyner a welir yn ei ysgrifeniadau ef. Yr oedd ganddo 151—Gorphenaf, iS79.