Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^SfaiII ŵglujpig. ENWOGION Y BEIBL. MORDECAI. Mordecai fel Daniel oedd un o blant y gaethglud yn Babilon, ac mewu rhai pethau yr oeddjnt yn debyg iawn i'w gilydd. Y ddau a fuont feirw yn nhir y caethiwed; y ddau oeddynt swyddwyr uchel, ac a gyrhaeddasant fri a dylanwad mawr yn llys brenin Persia; y ddau oeddynt hynod am burdeb eu buchedd a chywirdeb eu hymddyg- iadau yu eu holl ffyrdd; y ddau oeddynt gadarn yn y ffydd, ac yn ddiysgog yn eu proffes o grefydd; y ddau, er peryglu eu bywyd, a safent yn dystion ffyddlawn dros eu Duw ym mhlith eilunaddolwyr; a'r ddau a gawsant, mewn atebiad i'w gweddiau, warcdigaethau rhyfeddol o beryglon ag oeddynt yn bygwth dinystr iddynt hwy a'u cenedl. Ond mewn pethau ereill yr oeddynt yn gwahaniaethu: nid oedd Mordecai fel Daniel yn brophwyd; ni dderbyniai fel Daniel weledigaethau a dadguddiedigaethau oddi wrth yr Arglwydd; nid oedd fel Daniel yn ddeonglwr-breuddwyd- ion ac yn ddattodwr cylymau; a'i wareaigaethau, er eu bod yn rhyfeddol, nid oeddynt fel gwaredigaethau Daniel yn wyrthiol a goruchnaturiol. Gan fod Daniel yn derbyn dadguddiedigaethau oddi wrth Dduw, ac yn traddodi fel geneu Duw brophwydoliaethau i'r byd, yr oedd yn ym- ddangos yng nghanol dygwyddiadau gwyrthiol a goruch- naturiol. Ynddo gwelir y ffaith a ganfyddir yn yr holl Ysgrythyrau, sef bod Dadguddiad Dwyfol agwyrthiau yn cydfyned â'u gilydd; lle ceir y naill, yno gwelir y llall. Yr oedd y gwyrthiau yn profi dwyfoldeb y dadguddiad, fel y dywedodd Nieodemus wrth ein Harglwydd yn Ioan iii. lòO—Mehefin, Ì879.