Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfgfaill ŵglropijg. ENWOGION Y BEIBL. IEREMIAH. Yr oedd Ieremiah yn byw mewn oes helbulus: "amser blinder oedd i Iacob." Yr oedd y genedl wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd, ac yr oedd barnedigaethau Duw ar y wlad. Efe a ddechreuodd brophwydo o dan deyrnasiad y brenin duwiol Iosîah, ac a barhaodd i brophwydo hyd y flwyddyn olaf o deyrnasiad Sedecîah, brenin diweddaf Iwdah, pan y cymmerwyd Ierwsalem gan y Caldeaid, y llosgwyti y deml â thân, ac y caethgludwyd y bobl i Babi- lon. Bhoddwyd iddo ef ei ddewisiad gan Sebusarhadan, penaeth y milwyr, i aros yn y wlad neu i fyned i Babilon. Penderfynodd aros yn y wlad, ac efe a drigodd ym mhlith y gweddill a adawyd o'r gaethglud; ond wedi hyny dygwyd ef i'r Aifft, Ue fel y tybir y bu farw. Mae traddodiad ym mhlith yr Iuddewon iddo gael ei labyddio yno, a meddylir y cyfeirir ato ef ym mhlith ereill yn yr ymadrodd yn Heb. xi. 37: " Hwynt-hwy a labyddiwyd." Mae ei ysgrifeniadau yn llai prydyddol, ond yn fwy hanesyddol, nag ysgrifen- iadau prophwydi ereill. Efe a rydd ynddynt hanes helaeth am dano ei hun: sonia am ddygwyddiadau hynod ei fywyd, ac adrodda y pethau a gymmerodd le yn y wlad pan y caethgludwyd y genedl i Babilon; ac felly yn ei ysgrifen- iadau canfyddir hynodion ei gymmeriad; gwelir ynddynt pa fath ddyn oedd, a pha fodd yr ymddygodd o dan yr anffawd a'r adfyd a oddiweddodd ei genedl yn ei ddydd. 1. Efe a geryddai yn llym bechodau ei oes. Efe oedd geryddwr i'r genedl; ac yn hyn y gwelir un o hynodion penaf ei gymmeriad. Efe oedd dyst ffyddlawn dros ei Bduw yng nghanol cenedl anffyddlawn a throfäus; nid arbedai neb, ac nid ofnai wyneb neb; pa le bynag y gwelai 149—Mai, 1879.