Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| 4tfafII ŵjlmajifl. ENWOGION Y BEIBL. DANIEL. Un o blant y gaethglud yn Babilon oedd Daniel; ac efe oedd y blaenaf a'r mwyaf o honynt. Yr oedd o'i ysgwydd i fyny yn uwch na hwynt oll. Ebai llysiau peraidd, pa fwyaf y mathrir ac yr yssigir hwynt, mwyaf hyfryd y rhoddant eu harogl; felly saint Duw, y rhai a brofir fwyaf, y rhai hyny yw y mwyaf gloew a dysglaer yn eu grasusau. "Amser blinder i Iacob" oedd y tymmor yr oedd Daniel yn by w ynddo, ac efe ei hun a gyfarfu â phrof- edigaethau chwerwon, ond efe a'u dyoddefodd mewn am- yuedd, ac ynddynt efe a burwyd ac a gànwyd, ac y mae yn dysgleirio fel seren oleu wiw yn y cyfnod tywyll y bu yr Eglwys ynddo yn amser caethiwed Babilon. Ac yn awr ystyriwn yn fyr brif hynodion ei gymmeriad. 1. Cyssegrodd flaenffrwyth ddyddiau ei oes i'r Arglwydd. Aeth yn foreu i'r wiullan; dygodd yr iau yn ei ieuenctyd. Fel Iosiah, brenin duwiol Iwdah, "tra yr oedd efe yn fachgen efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad," ac a "roddes ei fryd nad ymhalogai trwy ran o fwy4 y breuin." Ym mhlith ac o flaen eiluuaddolwyr pan oedd ond llanc ieuanc efe a "broffesodd broffes dda." Er fod ei fywyd mewn perygl ni wadodd ei grefydd; cadwodd ei deddfau ac ufuddhaodd i'w gorchymmynion; ofnodd ei Dduw ac ymddiriedodd ynddo. 2. Yr oedd yn ddyn doeth a dysgedig. Yr oedd ya naturiol yn meddiannu synwyr cryf a galluoedd mawrion. Yr oedd yn ddyn call a deallus, a dangosai y medrusrwydd mwyaf ym mha beth bynag y gosodai ei law wrtho; ac efe fel Ioseph oedd " wr llwyddiannus." Yr oedd hefyd yn ddysgedig; yr oedd wedi coethi ei alluoedd ac eangu ei US—Ebrill, 1879.