Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <|i|ain (BflltDgaifl. ENWOGION Y BEIBL. HAGGAI A SECHARIAH. Haggai a Sechariah oeddynt brophwydi. Yr oeddynt yn byw yn amser ailadeiladu y deml. Yr oedd hwn yn amser tywyll a du; amser blinder oedd i Eglwys Dduw; yr oedd y gwaith yn fawr, yr oedd y rhwystrau yn lluosog, yr oedd y gelynion yn gedyrn, a defnyddient bob moddion o fewn eu gallu i rwystro'r gwaith i fyned rhagddo, ac am dym- mor llwyddasant. 0 dan Artaxerxes peidiodd y gwaith, a bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Darius. Yn y fiwyddyn hòno yr ymddangosodd Haggai a Sechariah, a thrwy eu prophwydoliaethau annogasanty bobl i fyned rhagddynt; cryfhasant ddwylaw Sorobabel, tywysog Iwdab, yn y gwaith; sicrhasant iddo mai ei ddwylaw ef, y rhai a sylfaenasant y ty, a'i gorphenent. Ni ddy wedir ond ychydig am danynt, ac nid ydym yn gwybod braidd dim am eu hanes boreuol; ond gwelir oddi wrth eu prophwyd- oliaethau eu bod yn ser o'r maintioli mwyaf yn ffurfafen yr Eglwys. Yr oeddynt yn dysgleirio fel goleuadau yn yr oes dywell ym mha un yr oeddynt yn byw. Yr oedd eu haunogaethau i'r bobl yn daer ac yn gynhyrfus, ac yr oedd eu tystiolaeth dros eu Duw yn eglur ac yn benderfynol iawn. Yn bresennol ni a ystyriwn y dull yr annogent Soro- babel, y tywysog gwladol, a Iosuah yr archoffeiriad, a'r holl bobl, at y gwaith o adeiladu ty Dduw. 1. Haggai. Efe a geryddai y bobl yn llym. Yr oedd- ynt yn llesg ac yn hwyrfrydig yn y gwaith; dywedent, "Ni ddaeth yr amser — yr amser i adeiladu ty'r Ar- glwydd." Y prophwyd a ofynai, "Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r ty hwn yn 147—Mawrth, ]879.