Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| dttfaill (SglmjBig. ENWOGION Y BEIBL. ESIÎA. Yr oedd Esra yn cydoesi â Nehemiah, ac yr oeddynt yn gydlafurwyr yng ngwinllan eu Duw. Y ddau a ddaethant i fyny o Babilon, ond nid ar yr un pryd. Esra a ddaeth i fyny, ac ereill o'r gaethglud gydag ef, yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes, ond Nehemîah a ddaeth i fyny yn yr ugeinfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac yn ol pob tebygolrwydd wrtho ei hun. Cafodd y ddau, y naill fel y llall. lythyr oddi wrth frenin Persia, yu eu gosod yn lywodraethwyr yn Iwdea. Offeiriad oedd Esra, ond efe a dderbyniodd awdurdod nid yn unig i adferu addoliad Duw yn y deml, ond hefyd i osod "swyddogion a barnwyr i farnu y bobl." Er mai oífeiriad oedd, yr oedd yn ymyraeth mewn achosion gwladwriaethol. Ond Nehemîah, tywysog gwladol oedd, ond er hyny efe fel llywodraethwr a ymyrai mewn achosion crefyddol. Y gwaith neillduol yr hwn y danfonwyd ef i'w gyflawnu oedd adeiladu mur Ierwsalem, ond efe hefyd a ddiwygiai foesau y bobl ac a adferai ordinhadau crefydd yn eu plith. Yr oedd Esra yr offeiriad yn ymyraeth mewn pethau gwladol, a Nehemiah y Ueygwr yn ymyraeth mewn pethau crefyddol, ac yr oedd i'r ddau ddoniau a chymhwysderau neillduol priodol iddynt eu hunain i'w haddasu at y gwaith a osodwyd iddynt i'w gyflawnu. Ac yn fyr ystyriwn rai o brif hynodion cymineriad Esra a'i gymhwysderau at ei swydd. 1. Yr oedd yn ddyn dysgedig. Nid adeiladu y mur mewn amseroedd blinion oedd ei waith neillduol ef, ond " dysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau," ac yr oedd dysg yn ofynol at hyn, a meddiannai Esra y dysg gofynol U6—Chwefror, 1879.