Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fgfaill (Sglujgaij. AMCAN EIN HADDYSG. Pa beth ydyw yr un amcan mawr a ddylem ni gadw o'n blaen pan yn addysgu yn yr Ysgolion Sul ? Y mae un o awdurdod tra uchel wedi dyweyd wrthym mai hyn a ddylai fyd, sef " I ddysgu plant yr Eglwys wirionedd crefyddol, ac i ffurfìo ynddynt elfenau nodweddiad cref- yddol." Gadëwch i mi yn ddifrifol gymmeradwyo y geiriau hyn i'ch dwys ystyriaeth. Dyma ydyw ein ham- can—dwyn calonau a meddyliau yr ieuainc i feddiant agos a gwirioneddol o Air Sanctaidd Duw; dysgu pob plentyn ei fod ef wedi ei anfon i'r byd yma nid i fyw ynddo iddo ei hun, ond er anrhydedd a gogoniant Duw ; dangos pob plentyn mai nid rhyw ffurf wag gyfammodol yw eu sanctaidd Fedydd, ond fod gwir, bywiol, a grymus nerth yn y geiriau, " Ydwyf yn wir; a thrwy nerth Duw felly y gwnaf. Ac yr wyf fi yn mawr-ddiolch i'n Tad Nefol am iddo fy ngalw i gyfryw ystâd iachawdwriaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr; " ymdrechu arwain pob mab a merch i fyw er mwyn rhywbeth uwch a mwy ardderchog na rhyw arferiad gwag a dyddiol mewn pechod a hunanoldeb ; mewn gair, arwain pob calon a meddwl ieuanc at Grist ei Hun—dyna ydyw amcan athraw yr Ysgol Sul. Mae llawer o honom, er hyny, yr wyf yn ofni, yn camsynied wrth dybied mai ein hunig amcan ddylaí fod addysgu gwirionedd crefyddol. Yn ddiammheu, fe ddylem amcanu at hyn ; ond ar yr un pryd dylem beidio anghofìo y dylai fod gyda ni amcan uwch fyth mewn goíwg, sef ffurfio elfenau nodweddiad crefyddol. Yr ydym yn dueddol i ddychymmygu fod bywyd cref- yddol bob amser yn sylfaenedig ar wybodaeth grefyddol, ac os yn unig yr hyfforddir y plant yn ofalus yn ffeithiau y lU—Magfyr, 1878.