Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

@ ^afaîll églmusitt Y DDATAR A'I THRIGOLION. {Tarhâd o dudal 255.) POBL WLEDIG GÈRMANI. Y Germaniaid ydynt bobl hynod; maent yn genedl luosog a chedyru, ac y maeut wedi cyrhaeddyd y pinacì uchaf mewn dysgeidiaeth Yu y celfyddydau ni saif neb yn uwch na hwynt Pobl fawr ydynt. ac y maent yti fawr ym mhob ystyr o'r gair Mae ganddynt ddiuasoedd eang, lluosog eu poblogaeth, a gwych eu hadeiladau. Yn y dinasoedd byn gwelir masnach ym mawredd ei rhwysg, a moethau cyfoeth yn eu holl gyfiawnder. Y dinasoedd hya ydynt arddaugosiad o gymmeriad dosbarth helaeth o'r trigolion; oud yn Germani, fel rnewn teyrnasoedd ereill, y mae dosbarth lluosog o'r trigoliou yn preswylio'r wlad ym mhell oddi wrth y trefí a'r dinasoedd, ac yn bresennol ni a gymmerwn gipolwg o arferion y dosbarth hwn ym mhlith trigolion Germaui. Auhawdd cael pentref hardd a phrydferth yn Germani: gwael yw yr olwg ar y tai; ni cheir o ddeutu iddynt erddi ffrwythlawn; ni addurnir hwyut'â blodau ac â llysiau amryliw; ac ni chedwir hwynt yn lân ac yn bur, ond y maent, yng nghyd â'r lleoedd o'u hamgylch, yn fudr ac afiau. Ac ar y Sul—dydd yr Arglwydd—ceir golygfëydd yn y pentrefí gwabanol i'r hyn a welir yn ein plith ni. Mae cloch y Llan yn canu am chwech o'r gloch yn y boreu. Penodir y gwasanaeth am ddeg o'r gloch, ond ni ddechreuir ef bob amser ar yr awr hòno; y mae weithiau yn gynnarach ac weithiau yn ddiweddarach, fel y byddo yn ateb i gyfleusdra y gweinidog a'r bobl. Yr Eglwys yn fynyoh sydd adeilad oer, digysur, yn debyg o ran ei ffurf i ysgubor. Yn un peu i'r Eglwys y mae yr Ud—Tachwedd, 1878.