Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (lîjfaill ŴgliDgsig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. (Parhâd o dudalen 227.) CABUL. Cabul, neu Kabul (a gynanir Jca.bwl'), yw prif ddinas Afghanistan, yr hon sydd wlad o ddeutu yr un maintioli a Ffrainc, ac yn rhifo rhwng deg a phedair miliwn ar ddeg o drigolion. Mae Afghanistan yn cyffinio ar India yn y rhan ogleddol o du y gorllewin. Mae yn deyrnas anymddibynol, yn cael ei llywodraethu gan dywysog, yr hwn yn ol ei swydd a elwir ameer. Yr Afghanistaniaid ydynt ddynion tal a lluniaidd eu cyrff; maent yn gedyrn a nerthol. Mae iddynt drwynau eryr; esgyrn eu grudd- iau sydd uchel, eu gwynebau sydd hirion, a'u gwallt yn gyffredin sydd o liw du. Maent yn ddynion iachus a hoew; uid ydynt yn ymyraeth ond ychydig â masnach; y Persiaid a'r Hindŵaid yn gyffredin yw eu masnachwyr. Mae y radd uchaf mewn cymdeithas o honynt yn treulio eu hamser gan mwyaf yn eu gerddi, yn eistedd ar garped wedi ei daenu ar y llawr, gan adrodd wrth eu gilvdd chwedlau y gymmydogaeth, a gwrando swu cynghanedd. Tybir gan rai mai hiliogaeth y deg llwyth yn Israel ydynt, y rhai a gaethgludwyd i Assyria, ond nis gellir cael profion digonol i sicrhau i ni fod y dybiaeth hon yn gywir. Dywedir, modd bynag, fod tebygolrwydd neillduol rhyng- ddynt a chenedl Israel. Mae Cabul y dyddiau hyn yn cael sylw mwy na chy- ffredin yn y newyddiaduron. Mae wedi dyfod i hynod- rwydd neillduol ger bron y cyhoedd y dyddiau yma. Anfonodd llywodraethwr cyffredinol India genadwri hedd- ychlawn at Ameer Cabul, ond efe a wrthododd ei derbyn; yn hyn ni ddangosodd y parch dyladwy i awdurdod ein U2—Hi/dref, 1878.