Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

S ÍÎÍhUI ŵglujpig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. (Parhâd o dudalen 171.) CYTRUS. Sonir llawer am Cyprus yn y dyddiau hyn; yuys ydyw yn y parth pellaf o Fôr y Canoîdir, yn mesur o ddeutu 140 o filldiroedd o hyd, ac o ddeutu 100 milldir o led yn y man lletaf, ac o ddeutu 15 milldir yn y mau culaf. Yn y cynghrair diweddar rhwng Lloegr a Thwrci, rhoddwyd yr ynys i fyny i feddiant Lloegr, ac erbyn hyn mae'r cyhoeddiad wedi ei wneuthur ei bod yn bresennol o dan lywodraeth y Frenines Victoria. Mae'r tir gan mwyaf yn ffrwythlawn, a byddai ei gynnyrch yn fawr pe gwrteitbid ef yn ddyladwy; cyu- nyrcha sidan. a chotwm, a llin, gwinwydd a ffiüiyswydd; sugr, tybaco, ac oranges; ac mae yn wlad ffafriol i gyn- nyrchu yd, yn enwedig gwenith, ac yn hynod am ei choed; ceir ynddi y dderwen a'r llwyfen a'r cypreswydden; ac mae yn gyfoethog o fwugloddiau o halen a chopr; a dywedir y ceid ynddi yn yr hen amseroedd aur ac arian a meini gwerthfawr; oud o dan lywodraeth ormesol y Tyrciaid mae ei masnach yn gwywo; ni wrteithir y tirj uid yw, o ddiffyg triniaeth briodol, yn cynuyrchu y cnydau a'r ffrwythau y medr eu dwyn. Mae yno adar asgellog, y rhai a werthfawrogir gan helwyr, megys y cyffylog, y betrusen, a'r sofliar; a cheir yno hefyd yr ysgyfarnog a'r cadno. Nid oes yno ymlusgiaid gwen- wynig oddi eithr math o seirff; ond blinir y wlad gan y locustiaid y rhai ydynt fflangell ofnadwy i'r gwledydd sydd yn agored iddynt. Preswylir yr ynys gan Roegiaid a Thyrciaid; y blaenaf ydynt y lluosocaf, maeut fe ddichon yn gwneuthur i fyny U0—Awa, 1878.