Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I <$gîaU! titglugsig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. IWBBDDON. (Parhâd o dudalen 115.) Yn ein rhifyn diweddaf ni a sylwasom fod teyrnasiad Iago I. yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes Iwerddon. Diddymwyd yr hen arferion Gwyddelig, eangwyd terfynau Llywodraeth Lloegr, a chryfhawyd hi ym mhlitb y bro- dorion Gwyddelig yn gystal ag yn y parthau Seisonig, a phlanwyd, yn enwedig yn nhalaeth Ulster, drefedigion lawer o Loegr a Scotland, y rhai, trwy eu diwydrwydd mewn amaethyddiaeth a masnach, a roisant i'r wlad olwg newydd; o fod yn ddiffrwyth ac anial gwnaethant hi yn íìrwythlawn a hardd. Ar farwolaeth Iago I. ei fab Siarls I. a'i canlynodd yn y goron. Yr oedd Siarls yn ddyn da; yr oedd yn bur ei fuchedd ac yn ddifrycheulyd ei foesau; efe a barchai grefydd, a gellir meddwl ei fod yn byw o dan ddylanwad gwir dduwioldeb; ond nid oedd yn llywodraethwr doeth a medrus; nid oedd yn deall natur ac egwyddorion rhyddid gwladol a chrefyddol, ac yr oedd ei deyrnasiad yn Iwerddon mor aflwyddiannus ac anffodus ag yr oedd yn Lloegr. Efe a ymddiriedodd lywodraeth Iwerddon i ddwylaw Iarll Strafford. Y gweinidog galluog a nerthol hwn a lywodr- aethodd Iwerddon fel Lloegr â Uaw gadarn; efe a aeth tu hwnt i lythyren y gyfraith, ac nid oedd yn ofalus i gadw ei air ac i gyflawnu ei addewidion i'r Gwyddelod. Pan y eynuddwyd ef gan y Parliament o ormes a thrais, ac o fradychu y cyfreithiau ac yradrechu dymchwelyd cyfan- soddiad y deyrnas, y cyhuddiad mewn rhan a orphwyaai.Är ei lywodraethiad o'r Iwerddon. Efe a ddarostyngodd y Gwyddelod, o leiaf mewn ymddangpsiad, i'r Llywodraéth; 138—Mehefin, 1878.