Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (fífaül ŵjlrcpij. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. IWERDDON. (Parhád o dudalen 87.) 0 dan y Frenines Elisabeth yr oedd Iwerddon mewn sefyllfa derfysglyd; y tywysogion brodorol a godasant mewn gwrthryfel yn ei herbyn; cefnogid hwynt gan Frenin Yspaen, yr hwn a anfonodd fyddinoedd drosodd i'w cyn- northwyo; ond methasant yn eu hamcan; lluoedd y fren- ines a orfu; ac felly cyn terfyn llywodraeth Elisabeth darostyngwyd y gwrthryfel, a sefydlwyd awdurdod coron Lloegr yn yr oll o'r ynys; gwnaethpwyd hyn yn y parthau hyny o honi y preswylid hwynt gan y brodoríon Gwydd- elig, yn gystal ag yn y parthau ag oedd ym meddiant y trefedigion Seisonig. Ac felly pan ddaeth Iago I. ar farwolaeth Elisabeth i'r orsedd yr oedd amgylchiadau a sefyllfa pethau yn Iwerddon yn fFafriol i wneuthur eyf- newidiadau a diwygiadau yn y wlad. Ac felly bu; gwnaethpwyd mwy o dan deyrnasiad Iago I. er sefydlu trefn a llywodraeth rheolaidd yn Iwerddon nag a wnaeth- pwyd drwy'r holl ganrifoedd er pan ddarostyngwyd yr ynys i goron Lloegr, yn y flwyddyn 1172, yn amser Harri II. Ac felly yr oedd teyrnasiad íago I. yn gyfnod newydd yn hanes Iwerddon. Diddymwyd yr hen arferion y rhai a elwir Tanistry a Gavélkind trwy benderfyniad llysoedd barn yn Dublin; rhanwyd yr oll o'r ynys i siroedd. Y barnwyr a aent trwy yr holl siroedd yn ddiwahân ar eu cylch, ac agorent eu llysoedd i brofi carcharorion; y barwn- iaid Gwyddelig a roddasant eu tiroedd i fyny i'r brenin, ac a'u derbyniasant yn ol i'w dal fel deiliaid i'r goron yn ol y drefh Seisonig. Cymmerid cyfrif manwl o'r holl dir a feddiannai pob un o'r barwniaid, fel na byddai hawl gan- 137—Mai, 1878.