Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$8faíH (Bgluijaifl. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. IWERDDON. (Parhâd o dudalen 59.) Darosttngiad Iwerddon i lywodraeth Harri II., Brenin Lloegr, a gymmerodd le, fel yr ydym eisoes wedi sylwi, yn y flwyddyn 1172. Darostyngwyd yr ynys nid trwy ymdrechiadau y brenin ei hun, ond trwy wroldeb y barwniaid Strongbow, Lacy, a Fitz-stephen. Ni chym- merodd y brenin ond rhan fechan yn yr anturiaeth, ond gadawodd ef braidd yn hollol yn Uaw y barwniaid hyn. Derbyniodd y brenin warogaeth y tywysogion Gwyddel- ig ac a roddodd i'r barwniaid Seisonig fraint-ysgrifau (charters); ond y tir a oresgynwyd gan y barwniaid; a chan iddynt gymmeryd yr anturiaeth mewn llaw heb y brenin, dygasant ef ym mlaen er budd eu hunain; ystyrient eu cleddyfau yn well diogelwch iddynt na braint-ysgrifau y brenin; yr oeddynt i raddau yn an- nibynol o'r brenin, a gosodent eu hawl i mewn am ranau helaeth o'r wlad. Gan mai hwy a ddarostyngodd y tir, golygeut mai hwy oedd i'w feddiannu; a llwyddasant yn eu hamcan; rhanwyd yr oll o'r ynys oddi eithr sir Dub- lin a dinasoedd glan y môr rhyngddynt; a dywedir nad oeddynt o nifer fawr; hwy a gawsant yn agos yr oll o'r wlad yn ysbail i'w dwylaw; gyrasant y tywysogion a'r trigolion brodorol i'r mynyddoedd a'r coedwigoedd, ac ymddy- gasent tuag atynt yn anffyddlawn, yn dwyllodrus, ac yn greulawn. Y tywysogion brodorol a orfodwyd i broffesu trwy arwyddion allanol eu hymostyngiad i'r brenin Harri II., ond eto, pell oedd oddi wrtb eu meddwl i roddi i fyny eu hawdurdod eu hun, ac i ymadael ag arferion eu tadau, ac 136— Ebrill, 1878.