Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| HJiHUill ÖgI©88ÍB. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. IWERDDON. {Parhâd o dudalen 31.) Ye oedd Iwerddon ar y cyntaf, fel yr ydym wedi sylwi yn barod, yn cael ei llywodraethu gan dywysogion brodorol, un o'r rhai a ddewisid yn frenin yr ynys. Yr oeddynt y pryd hyn mewn ystâd anwaraidd; ffynai yn eu plith gyfreithiau neu arferion ag oeddynt yn niweidiol iddynt mewn ystyr wladol a chymdeithasol. 1. Yr oedd yn ffynu yn eu plith y gyfraith yr hon a elwir cyfraith Tanistry'. Yn ol y gyfraith hon, byddai y tir a'r llywodraeth yrn mhob tywysogaeth i fyued i'r henaf a'r teilyugaf o'r un gwaed. Ni fyddai y mab ýn dilyn y tad fel ei etifedd yn ei etifeddiaeth a'i lywodraeth, ond yr olyniaeth a ddisgynai i'r henaf, sef i'r ewythyr, os byddai yn henach na'r nai, ac i'r teilyugaf, sef i'r ieuengaf, os byddai deilyngach na'r henaf. Hawdd gweled beth oedd effeithiau naturiol y drefn hon; fel y gellid dysgwyl, creai angbydfod ac ymryson yn y llwyth, weithiau dewisid yr olynydd cyn marwolaeth y rhagflaeuydd; trwy y drefn hon gochelid yr ymrysonau a'r ymrafaelion gwaedlyd a fynych ddygwyddai ar farwolaeth tywysog. 2. Cyfraith arall a ffynai yn eu plith oedd y gyfraith neu'r arferiad a elwid Gavelkind. Yn ol y gyfraith hon, pan fyddai dyn farw nid ai ei diroedd i'w blant yn ol ei etifeddiaeth, ond pen y llwyth a'i rhanai rhwng aelodau y llwyth; ac felly ar farwolaeth pob perchenog tir cym- merai rhaniad neu ddosbarthiad newydd le o holl diroedd y Uwyth. Yn y dull hwn yr oedd meddiant a mwyn- hâd o'r tir yn ansicr ac anwadal; ao o herwydd hyny nid elai ei bercbenogion i'r draul o'i drin a'i wrteithio, a chy- 135— Mawrth, 1878.