Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$lf»*I! <Bfllutpifl. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. (Parhâd o dudalen 3.) IWERDDON. Tybir mai ystyr yr enw Iwerddon yw "ynys werdd." Ymddengys i ni fod y dybiaeth hon yn gywir; ond pa un ai cywir ai peidio ydyw, nid oes ammheuaeth y gellir yn briodol roddi yr enw i'r ynys; mae hynawsedd ei hin, brasder ei phorfëydd, a gwyrddlesni ei choedydd yn rhoddi hawl iddi yn yr enw hwn; a gelwir hi gan y Seison "Emerald of the Sea," yr hwn yr ydym yn gyfieithu i'r Gymraeg yn "Gem Werdd y Moroedd." Mae natur wedi ei harddu â phrydferthwch, ac wedi gwasgaru ar hyd-ddi yn helaeth ac â Uaw haelionus ei chyfoeth; gellir dywedyd am dani fei y dywedodd Moses am Wlad Canaan, mai gwlad dda ydyw, gwlad afonydd, ffynnonau a dyfn- derau yn tarddu allan yn y dyffryn ac yn y mynydd. Gwlad llaeth ac ymenyn ac yd bara yw; gwlad ydyw pe gwrteithid hi yn ddyladwy, yr hon y bwytëid bara heb briuder ac na byddai eisieu dim ynddi, a gwlad yw yr hon y mae ei cheryg yn haiaru, ac o'i myuyddoedd y cloddir pres. Ond y trigolion nid ydynt yn deall eu braint; nid ydynt yn gwneuthur y goreu o'u gwlad; nid ydynt fel trigolion Ysgotland trwy amaethyddiaeth a gwrtaeth yn medi o'u tiroedd y cnydau toreithiog ag maent yn alluog i gynnyrchu. Mae natur wedi bod yn ffafriol iddi, mae wedi rhoi yn ei llaw fiiol lawn; mae yn edrych ar ei meusydd a'i dolydd, ei bryniau a'i mynyddoedd, ei bafonydd a'i ljychau â gwen ar ei gwyneb; ond gwaith dyn sydd yno yn pallu; mae'r trigolion i ddiolch iddynt eu hunain am eu tlodi; nid oes eisieu iddynt fyw mewn angen a noethni heb ddillad i wisgo, heb ymborth i fwyta, ac heb dai m—Chwefror, 1878.