Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÇsfaiH Ŵgluipifl- Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PRYDAIN FAWR A'R IWERDDON. (Parhâd o dudalen 311, Rhagfyr, 1877.) Yr Eglwys ac Ymneillduaeth sydd wedi bod yn destyn ein sylwadau am y misoedd diweddaf. Yr ydym wedi olrhain eu hanes hyd amser Wesley a Whitfield yn Lloegr, a Harries o Drefecca, a Rowlands o Langeitho yng Nghymru. Dynion Duw oedd y rhai hyn; yr oeddynt yn offerynau yn ei law Ef i ddeffroi y genedl o'u cysgadrwydd ysbrydol, ac i adfywio crefydd yn eu hoes. Yr oeddynt wedi eu gwisgo â nerth o'r uchelder, ac effeithiau mawr a ganlynai eu pregethau. Eglwyswyr oeddynt; proffesent ea hym- lyniad wrth yr Eglwys; gwerthfawrogent ei hathrawiaethau, a hoffent ei ffurfiau gwasanaeth; ond eu sel dros eu Gwaredwr, a'u cariad at eneidiau dynion a'u gyrent i'r prif- ffyrdd a'r caeau i alw y rhai a wahoddasid-i'r briodas; aethant am draws a lled y wlad; parchent drefn blwyfol yr Eglwys, ond ystyrient nad oedd y drefn hòno i fod yn rhwystr iddynt i gyhoeddi yr iachawdwriaeth i drueiniaid ein gwlad, y rhai oeddynt yn marw o eisieu gwybodaeth ym mhob man lle y cawsent gyfìeusdra; cyfarfuasant ag erlidigaethau mawriou; y bobl gyffredin yn gystal a gwŷu Eglwysig a gyfodeut i'w herbyu; yr esgobion a'u troisant allan o'r Eglwysi, a'r effaith o'r cwbl oedd ymraniad mawr oddi wrth yr Ëglwys. Cymmerodd rhwyg le, yr hon sydd wedi parhau hyd heddyw, ac yn debyg o barhau arn amser i ddyfod. Tra yr ydym yn ystyried yr adfywiad a gym- merodd le yn ein plith y ganrif ddi'weddaf yn fendith neillduol i'n cenedl ac i'r byd, ac yn arwydd o raslonrwydd Duw tuag atom, eto nis gallwu lai na galaru ac ystyried y peth yu anffawd i rwyg gymmeryd lle, ag sydd yn creu 133—Ionawr, 1878.