Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfííaill (Sfllwpig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PRYDAIN FAWR a'r IWERDDON. (JParhâd o dudaîen 283.) Yn y chwyldroad yn y flwyddyn 1688, pan yr esgynodd Gwilym III. orsedd Prydain, gosodwyd, fel y dywedasom yn ein rhifyn diweddaf, rhyddid crefyddol ar seiliau cedyrn a sicr, ac mae wedi parhau arnynt hyd heddyw yn ddisigledig. 0 hyny allan yr Ymneillduwyr a addolent Dduw fel yr ewyllysient; nid oedd rhwystr ar eu ffordd i wneuthur hyny. Er cael y rhyddid hwn nid oedd cynnydd YmDeillduaeth ond bychan am y deugain mlynedd canlynol i'r chwyldroad. Yn y cyfnod hwn yr oedd crefydd trwy'r holl deyrnas, yn yr Eglwys ac ym mhlith Ymneillduwyr, mewu cyfiwr marwaidd. Yr oedd ysbryd bydol yn ffynu yn yr Eglwys: y gweinidogion a ofalent fwy am danynt eu hunain nag am y prajdd; llawer o honynt oeddynt anfoesol a llygredig eu bucheddau; eu pregethau oeddynt fath o wersi moesol yn hytrach na chyhoeddiad o'r newyddion da o lawenydd mawr ag sydd yn yr Efengyl; gellid yn briodol defnyddio'r geiriau a íefarwyd am Eglwys Laodicea am ein Heglwys a'i gweini- dogion yn y cyfnod o dan sylw, nad oeddynt " nac oer na brwd, ond clauar." Nid oedd sefyllfa crefydd ym mhlith yr Ymneillduwyr yn amgen; yn eu plith hwynt, fel yn yr Eglwys, yr oedd crefydd mewn scfylifa wael a marwaidd. Yr oedd anffyddiaeth yn uchel ei phen, yr oedd yn lledaenu ym mhlith y werin: ysgrifenyddion galluog a champus a amddiffynent eu hegwyddorion dinystriol. Ond yn y gymmor tywyll hwn, cododd dynion i fyny i amddiffyn y twirionedd, ac ysgrifenwyd gan rai o honynt lyfrau a fuont o'r defnydd a'r gwasanaeth mwyaf i achos crefydd a Vò2—Magfyr, 1877.