Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$îfaHI Ŵgliüpij. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PRYDAIN FAWR a'r IWERDDON. (JParhâd o dudalen 256.) Yr oedd teyrnasiad Gwilym III. yn un o'r cyfnodau mwyaf pwysig yn hanes ein gwlad. Y pryd hwnw y dechreuwyd deall rhyddid crefyddol. Cyn hyny nid oedd yr Eglwys na'r Puritaniaid yn ei ddeall. Pa un bynag o honynt a fyddai yn uchaf a ormesai y llall. 0 dan deyrnasiad Elizabeth a Iago I. yr Eglwys oedd uchaf, a hi a ormesodd y Puritaniaid; ond o dan deyrnasiad Siarls I. torodd y gwrthryfel allan, a'r Puritaniaid a gawsant y llaw uchaf. Sefydlwyd y Werinlywodraeth o dan Cromwel, ac o dano ef y Puritaniaid yn nydd eu llwyddiant a orthrymasant yr Eglwys; ond o dan deyrnasiad Siarls II. yr Eglwys un- waith ym mhellach a gafodd y lìaw uchaf, a hi a orthrym- odd y Puritaniaid: gwnaethpwyd cyfreithiau caeth yn eu herbyn, ac ni chaniatëid rhyddid iddynt i addoli Duw yn ol eu cydwybodau eu hunain. Fel hyn y parhaodd pethau o dan deyrnasiad Iago II.; ond efe, fel y sylwasom yn ein rhifyn diweddaf, oedd Babydd, ac a ymdrechodd ddwyn y deyrnas o dan lywodraeth y Pab o Èufain. Ymdrechodd wneuthur hyny trwy bob moddion yn ei allu; ni phetrusai dori cyfreithiau y wlad i'r dyben o gyrhaeddyd ei amcan. Efe a ormesai Eglwyswyr a Phuritaniaid, nes o'r diwedd i'w iau fyned yn rhy drom i'w dwyn: penderfynodd y geiiedl ei thaflu oddi ar ei gwar, ac ymryddhau oddi wrthi. Yr Eglwyswyr a'r Puritaniaid a gytunasant i wneyd hyny: aethant law yn llaw yn hyn: diorseddwyd y Brenin Iago II., a'i fab yng nghyfraith a'i ferch, Gwilym III. a Mari II., a esgynasant yr orsedd ac a deyrnasasant; ac yr oedd eu teyrnasiad hwy yn gyfnod newydd yn hanes ein gwlad a'n 131—Tachwedd, 1877.