Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

% íífaill %%\w%%'\%. Y DDAIAR A'l THRIGOLION PRYDAIN FAWR AR IWERDDON. 0 holl wledydd y ddaiar y mwyaf dyddoroî i ni yw ein gwlad ein hunain; ac mae yn wlad hynod ym nhlith gwledydd y ddaiar. Os ystyrir ei hanes, ei sefydliadau gwladol ac eglwysig, ei rhyddid crefyddol a chymdeitbasol, ei masnach a'i chyfoeth, ei chelfyddydau a'i chyuuyrchion, yng nghyd â'i bri a'i dylanwad yn y byd, gellir yn briodol dy wedyd am y trigolion sydd yn ei phreswylio, mai " pobi fawr a deallus " ydynt. Wrth Brydaiu Fawr deallir yr hoîl Ynys, yu cynnwys Lloegr, .Scotland, a Chymru; a phan ddefuyddir, am ein Lly wodraeth, yr ymadrodd " Y Deyrnas Gyfunol," cymmerir i mewn yr Iwerddon. Ac felly y psdair gwlad, Lloegr, Scotland, Cymru, ac Iwerddon, y rhai yn yr oesoedd gynt oeddynt ysgaredig oddi wrth eu gilydd., ac yn elyniaethol i'w gilydd, a wnânt yn awr uu deyrnas gyfunol. Cynnrychiolir hwynt yn yr un Senedd, ac maent yn ddarostyngedig i'r un goron—coron ein grasusaf Fren- ines Victoria. Eu hundeb yw ein cadernid. Mae yn ddywediad cyffredin, a gwir yw, mai nid mewn un dydd yr adeiladwyd Rhufain, ac felly gellir dywedyd am y pedair gwlad, Lloegr, Scotland, Cymru, a'r Iwerddon, mai nid mewn un dydd nac mewn uu oes y ffurfiwyd hwynt yn un deyrnas, yr unwyd hwynt dan yr un goron, ac y írefnwyd iddynt gael eu cynnrychioli yn yr uu Parliament. Y gwaith hwn a ddygwyd oddi amgylch yn raddol, a chymmerwyd oesau îawer i'w gyflawnu. Bras olwg ar hanes ein gwlad a ddengys hyn. Trigolion cyntaf y rhan hyny o'r ynys a elwir yn awr yn Líoegr a Chymru oeddynt y Brythoniaid, neu'r 126—Mehefin, 1877.