Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I dSinUHl (Sflluipig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. AMERICA. (Parhâd o dudalen 31.) Mae America, yng nghyd â'r moroedd a'r ynysoedd oyssylltedig â hi, yn gwneuthur i fyny hanner y byd; mae wedi ei íîurfio gan natur i ddwy ran, y rhai a elwir America Ogleddol ac America Ddeheuol; o ddeutu y canol mae'r cyfandir yn rhedeg yn gul, ac yno cyssylltir y rhanau gogleddol a'r deheuol â'u gilydd gan gyfyngdir, yr hwn a elwir Cyfyngdir Panama neu Darien. Nid yw y cyfyngdir hwn yn mesur mwy na deg milltir ar hugain yu y man culaf arno. Gan fod America yn un cyfandir ac yn cyfansoddi hauner y byd, mae, wrth reswm, ei ffurfiau naturiol a'i pherthynasau o'r maintioli inwyaf, ac yn hynod fawreddog. Mae yn mesur o ddeutu 9000 o filitiroedd o hyd, 3300 o filltiroedd o led, a 15,000,000 o filltiroedd yu arwynebol. Mae ei mynyddoedd yn anferthol o fawr; rhai o honynt ydynt ym mhlith y mynyddoedd mwyaf ac uchaf yn y byd. Mae un rheng o fynyddoedd yn rhedeg í.rwy'r oll o'r cyfandir o'r de i'r gogledd; y myuyddotdd hyn a elwir yn America Ddeheuol yn fynyddoedd yr Andes, ac yn America Ogleddol yn fynyddoedd Rocky. Y rheng hon o fynyddoedd yw'r hwyaf yn y byd; mae yn mesur o ddeutu 9000 o filltiroedd; y mynyddoedd yma. er eu bod yn hir, nid ydyntyn hynod o lydan; mynyddoedd yr Andes yn America Ddeheuol nid ydynt ar y mwyaf clros 400 o filltiroedd o ]ed, tra yn y man culaf nid ydynt dios 30 o filltiroedd. Ym mhíith y mynyddoedd hyn ceir mynydd- oedd tanllyd, ac mae y rhai hyn yn uwch ac yn fwy ofnadwy na'r mynyddoedd tanllyd a geir yn Ewrop. m—Mawrth, 1877.