Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ (fÿfätll (Bglujpig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. AMERICA. Y mae America yn un o bedwar parth y bycl; a llefaru yn fwy priodol, gellir dyweyd ei bod, yng nghyd â'r moroedd a'r ynysoedd cyssylîtedig â hi, yn gwneyd i fyny banner y b\d. Gelwir Ameriea y Byd Newydd, fel y gelwir Ewrop, Asia, ac Affrica yn Hen Fyd. Rhoddir yr enw hwn i America, o blegid yn yr hen amseroedd ni wyddid dim am y wlad; yr oedd yn anhysbys i drigolion yr Hen Fyd. Yrn y bymthegfed ganrif y darganfyddwyd America. Yr oedd y ganrif hòno yn gyfnod cyfìröns yn hanes y byd. Y gelfyddyd o argraffu a ddarganfyddwyd yn yr oes hòno; a thyma'r oes y cymmerodd y Diwygiad Pro- testanaidd le; a dysg ac addysg hefyd yn holl gangenau gwybodaeth a wnaethant gynnydd anarferol yn yr oes hòno; ac ym mhlith y celfyddydau ereill, cafodd morwr- iaeth sylw neillduol. Trigolion Portugaì ac Y'spaen, a pharthau o Itali, a hynodent eu hunain yn benaf ynddi. Hwynt-liwy yn benaf ac yn flaenaf a rldygent ym mlaen y fasnach helactb ac ennillfawr ag oedd y pryd hyny rhwng Ewrop ac India. Darganfyddydd America oedd Colum- bus. Y" dyn hynod hwn oedd frodor o Genoa. yn Itali. Credai y cyrhaeddid India yn hawddach ac yn gynt wrth hwylio i'r gorllewin, na thrwy gylcbynu Penrhyn Gobaith Da (Cape of Good Hope), yr hwn yw pegwn pellaf Cyfandir Affrica yn y de. Gosododd Columbus ei gyn- Uun yn gyntaf o flaen ei gydwladwyr, trigolion Genoa, ond nis derbyniasant ef. Wedi hyny, cynnygiodd ef i frenin Ffrainc, ond hefyd ni chafodd wrandawiad; ac yna trodd ei wyneb at frenin Lloegr, Harri VII.; ac fe ed- rychodd y brenin yn ffafriol ar y cynllun, ond nis mab- 10-