Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$ífaill ŵglujpig. Y DDAIAR A*l THRIGOLION. CRISTIONOGION YN TWECI (Purhâd o dudalen 284, Tachwedd, 1876.) Mab sefyllfa y Cristionogion yn Twrci yn cael sylw cyffredinol y dyddiau hyn. Y trigolion ag sydcl yn trigo yn Twrci yn Ewrop sydd yn cael y sylw mwyaf, ond ni anghofir y lleill ag sydd yn preswylio yn Twrci yn Asia. YTng nghylch y rhai olaf hyn ysgrifenodd Proffeswr Porter o Belfast yn ddiweddar lythyr dyddorol i'r Times. Mae'r Proffeswr wedi teithio llawer yn y Dwyrain, ac mae ef yn cael ei ystyried yn awdurdod ar sefyllfa y Cristionogion yn y parthau hyny; ac yma ni a roddwn dalfyriad o'i sylwadau o fiaen ein darllenwyr. Efe a ddywed y cyfrifir fod Cristionogion Twrci yn Asia yn rhifo o ddeutu 16,000,000, ond y rhenir hwynt i lwythau a sectau gwahanol ac hyd yn oed gelyniaethol i'w gilydd. 1. Y sect fwyaf luosog a dylanwadol yw yr Armeniaid. Sillebir yr enw yn Anmniaid, ac nid Armniiaid. Yr Ar- miniaid sydd blaid o Brotestaniaid a dderbyniasant eu henw oddi wrth Arminius, ei sylfaenydd, yr hwn oedd yn byw yn y ddwyfed ganrif ar bymtheg; ond yr Armeniaid sydd blaid ym mhlith Cristionogion Twrci. Buont un- waith yn genedl nerthol ac annibynol: preswylient yr ucheldiroedd ag sydd yn gorwedd rhwng y Môr Du, Môr Caspiaidd, a gwastattir Mesopotaniia. Gorchfygwyd hwynt gan y Mahometiaid yn yr unfed ganrif ar ddeg, ac yn ganlynol eu tir a ranwyd rhwng y ìyrciaid a'r Pers- ìaid. Er dechreuad y ganrif bi'esennol mae ymhelaethiad terfynau Rhwssia wedi dwyn o ddeutu 250,000 o honynt dan iau ei Hymherawdwr. Yn y taleithiau hyny o Twrci 121— Ionawr, 1877.