Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (^ajaill (Sgluipifl Y DDAIAR A'I THRIGOLION. TALEITHIAU TWRCI. Servia a thaleithiau ereill Twrei, y rhai sydd yn cyfhnio ar afon fawr Danube, a gaiff ein sylw presennol. Maent mewn rhyfel ag Ymherawdwr Twrci, ac o herwydd hyn sonir llawer am danynt, a dywedir llawer yn eu cylch. Coffëir hwynt braidd ym mhob ymddyddan, ac y maent yn destyn parhäus ar lafar y wlad. Maent yn bump o nifer, a'u henwau ydynt Servia, Montenegro, Bosnia, Herzegovina, a Bulgaria. Maent yn gorwedd o du deheu y Dauube, un o'r afonydd mwyaf yn Ewrop, yr hon sydd yn codi yn Germani,- ac yn rhedeg tua'r dwyrain am gannoedd o filltiroedd, ac yua yn ymarllwys i'r Môr Du. Maent yn gwneuthur i fyny y parthau hyny o Ewrop a elwid yn yr amseroedd gynt yn Msesia ac Illyricum. Y Tyrciaid yn y bymthegfed ganrif a gymmerasant Constantinople, prif ddinas Ym- herodraeth y Dwyrain, ac a ddarostyngasant yr holl wledydd ag sydd yn gorwedd rhwng Constantinople a Môr Adria; a chadwasant feddiant o honynt oll hyd nes i'r Groegiaid godi mewn gwrthryfel yn eu herbyn, ac ennill eu hannibyniaeth yn y fiwyddyn 1827. Y pryd hyn rhyddhawyd y Groegiaid oddi wrth iau galed a chaethiwus y Tyrciaid. Ond y taleithiau ereill o du y gogledd i wlad Groeg, y rhai sydd yn gorwedd rhwng y wlad hòno ac afon y Danube, a barhasant o dan lywodraeth y Tyrciaid, a rhai o'r taleithiau hyn sydd yn awr wedi ymgodi yn erbyn eu hawdurdod, ac sydd mewn gwrthryfel â hwynt. Nifer luosocaf y trigolion ydynt Gristionogion, ac nid Mahometiaid fel y Tyrciaid; a Sclafoniaid ydynt o ran cenedl; ac felly o ran crefydd maent mewn cymmundeb ag Eglwys Groeg, neu'r Eglwys Ddwyreiniol, ac mewn iaith 119—Tachwedd, 1876.