Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfaÜl Ŵgîuipia. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PEYDAIN FAWR. (Purhâd o dudalen 228.) Wrth olrhain hanes Prydain Fawr, ac ystyried ansawdd y trigolion, nis gellir gadael allan o gyfrif yr Eglwys yn ei phertbynas â'r genedl. Planwyd hi yn fore yn ein gwlad, ac yr oedd " o'r winwydden oreu." Yr oedd yn gangen bur " o'r Eglwys lân Gatholig: " yn ysgrythyrol yn ei hathrawiaethau ac yn "apostolig" yn ei thraddod- iadau. Hi a fwriodd yn ddwfn ei gwraidd ac a ledodd yn helaeth ei changenau ym mhlith y bobl, a hi a lanwodd y tir. Bu yn dda gan genedlaethau lawer o bererinion Sion i eistedd o dan ei chysgod, ac yr oedd ei ffrwyth yn felus i'w geneu. Mae o oes i oes wedi sefyll y gwyntoedd a'r tymmestloedd—oerder y gauaf a sychder yr haf—ac mae yn parhau yng ngrym ei hieuenctyd: mae yn fythol wyrdd, ac mae ei chynnyrchion fel addfedffrwyth y cynauaf. Llawer a ddywedant am dani, " Dynoethwch hi, dynoeth- wch hi hyd ei sylfaen;" ond yr ydym ni yn dywedyd, "Arbedwch hi, na ddinystriwch hi, cenys y mae ' bendith ynddi.'" Yn y Canoloesoedd, Eglwys Lloegr, fel holl Eglwysi Cred, a ymadawodd â'i chariad cyntaf, a suddodd i ofergoeledd, ac a " lygrwyd oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist." Y pryd hyn yr oedd Pabyddiaeth yn ei grym a'i rhwysg, ac yr oedd tywyllwch yn gorchuddio y ddaiar, a'r fagddu y bobloedd; ond cododd y wawr, a Uewyrchodd y goleuni yn y Diwygiad Protestanaidd. Yr oedd y goleuni yn barod yn bodoli yn yr Eglwys, ond yr oedd y canwyllbren wedi ei osod dan lestr. Yr oedd defodau gwag a seremoniau ofergoelus fel gorchudd yn 118—Hydref, 1876.