Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H (Jgfaill êflluipifl. Y DDAIAR AM THRIGOLION. PRYDAIN FAWR. {Parhâd o dudalen 144.) Yn ydym wedi olrhain yn íyr hanes ein gwlad hyd deyrnasiad Sinr III. Efe a esgynodd i'r orsedd yn y flwyddyn 17f>(), ac a deyrnasodd hyd y flwyddyn 1820, sef triguin mlynedd. Yr oedd efe yn un o'r breninoedd goreu a eisteddodd erioed ar orsedd Prydain Fawr. Yr oedd yn ddyn da a duwiol; yr oedd ei íbesau yn ddiargyhoedd a'i gymmeriad personol yn ddifryeheulyd ; efe a barchai grefydd a'i hordinhadau, ac a ddarllenai ac a werthfawrogai yn íäwr y Beibì, a dywedir mai ei hoff esboniad ar y Beibl oedd eshoniad Matthew Henry. Yr oedd ei deyrnasiad yn hir, yr oedd yn un o'r rhai hwyaf a geir yn hanes ein gwîad. Dygwyddiadau mawrion a phwysig a gymmerasant ie o dan ei deyrnasiad, a'r dygwyddiadau hyn a'i gwnaent yn un o'r cyinodau mwyaf hynod yn hanes Prydain Fawr. Ac yn awr cawn nodi rhai o honynt. Rhyflioedd mawrion a brwydrau gwaedlyd ar fôr a thir a gymmerasant le o dan ei deyrnasiad. Un o'r rhyfeloedd mwyaf pwysig hyn oedd yr un a fu rhwng Lloegr ae Unol Daleithiau America. America a ddarganíyddwyd yn y bymthegfed ganrif; poblogwyd y parthau gogleddol o honi gan ymfudwyro Loegr, Cymru, Scotland, a'r Iwerddon. Yr ymfudwyr hyn a'u hiliogaeth a aethant rhagddynt mewn anturiaethau masnachol, a chynnyddasant mewn rhif a chyfoeth. Yr oeddynt yn parhau yn ddarostyngedig i goron Lloegr, ond yr oeddynt yn ìhydd oddi wrth drethi cyfFredinol y deyrnas. Yn fnan wedi esgyniad Sior III. 115—Gorphenf, 1876L.