Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| Clajaill ŵgtuipifl. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PRYDAIN FAWR. (Parhâd o dudalen 116.) Yn ein rhifyn diweddaf dyjíasom hanes Prydain Fawr hyd amser Siarls I., y brenin y torwyd ei ben gan Cromwel. Dylasem ddyv\edyd fod ei dad Ligo I., yr hwn oedd oJynydd y Frenincs Eliz;\heth, yn fienin Scotland, pan ddaeth i feddiant o goron Lloegr. Ac felìy o dan lago I. unwyd o hyn allan Lloetrr a Scotland o dan un brenin ; yr oedd hwn yn ddygwyddiad o'r pwys mwyaf yn hanes ein gwlad, a chanlyniadau mawrion a'i dilynodd. O dan deyrnasiad ei tab Siarls 1. cododd ymryson rhwng y brenin a'r Parliament; yr oedd llawer o achosion yn peri yr ymryson hwn ; ym mhlith pethau eraill y brenin a gymmerai arno i drethu y wlad heb ganiatâ'l Ty y Cyffredin ; cyhuddid ef o droseddu cyfreithiau y rìeyrnas trwy weithredoedd o ormes, a'r Puritaniaid, pa rai erbyn hyn oeddynt luosog ac o ddylanwad mawr yn y deyrnas, a ddywedent fod y brenin o dan arweiniad ac yn ol cynghor Laud, Archesgob Caergaint, ac ereill, yn tywys y deyrnas i Babyddiaeth. Y pethau hyn oeddynt ym mhlith y prif achosion o hèrwydd pa rai y cwynai y Puritaniaid ; dyma'r prif bethau a achosodd yr ymryson; yr ymryson a aeth yn rhyfel, a'r rhyfel hon a fu yn fflangell i'r deyrnas am rai blynyddoedd; yr oedd y brenin a'i fyddin yn ymladd o un ochr, a'r Parliament a'u byddin o'r nchr arall, ac yn y diwedd y Parliament a orfu, y brenin a gollòdd y dydd, cymmerwyd ef yn garcharor a dienyddwyd ef trwy dori ei ben yn y fiwyddyn 1649 O.C. Yn y gwrthryfel hwn dymchwelwyd Ty'r Árglwyddi, ac Eglwys Lloegr yn gystal a'r goron. Ty y Cyffredin a'r 114—Mehefin, 1876.