Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ífaill ŵjlujpig. Y DDAIAR AM THRIGOLION. Itali. (Parhâd o dudalen 60.) Yn ein rhifyn diweddaf dygasom hanes Itali i lawr hyd ddymchweliad Ymherodraeth y Gorllewin yn y bummed ganrif. Yn y flwyddyn 476 o oed Crist gwnaethpwyd Odoacer, capten milwyr Germanaidd ym myddin yr ym- herawdwr, yn frenin Itali, ac felly ysgarwyd yr holl wlad oddi wrth yr ymherodraeth Rufeinig. Ond yr oedd y trigolion wedi mawr ddirywio erbyn hyn, ac ni allai Odo- acer eu hadnewyddu i ysbryd egn'iol ac annibynol: i wneyd hyn yr oedd yn rhaid cymmysgu â hwynt rai o Iwythau cedyrn, gwrol. ac anturiaethus y goirledd. Llwythau o'r fath hyn oedd wrth law. Yr Ostragothiaid a drigent ar gyffiniau Itali; a'u brenin Theodoric, wedi ei gynhyrfu at hyny gan Zeno, Ymherawdwr y Dwyrain, a'u harweiniodd hwynt i Itali. Efe a ymosododd ar deyrnas Odoacer, ac a'i dymchwelodd hi; ac efe a ddarostyngodd hyd o fewn yebydig yr oll o Itali, o fynyddoedd yr Alps hyd yuys Sicily, i'w lywodraeth. Efe a deyrnasodd am dair blynedd ar ddeg ar hugain. Dygwyd rhyfel yn erbyn ei olynwyr gan Ymherawdwr y Dwyrain. Cadfridog yr ymherawdwr yn y rhyfeloedd hyn oedd Belisarius. un o'r milwyr mwyaf dewr a cbampus a feddai yr oes hòno; ac efe a lwyddodd; darostyngodd olyuwyr Theodoric, ail eunillodd Itali, a chyssylltwyd hi unwaith yn rhagor ag Ymherodraeth y Dwyrain, o dan raglaw yr hwu a drigai yu Ravenua. Cym- merodd hyn le yn y flwyddyn 554 o oed Crist. Ym mhen o ddeutu deuddeg mlynedd ar ol hyn ymos- ododd llwythau ereill o'r gogledd ar Itali, y rhai a elwid Lombardiaid, ac oddi wrthynt hwy v gelwir rhan o'r wkd 112—Mritt, 1876.