Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (ÍjfaiII ŵflluigaifl. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. Itali. (Parhâd o dudalen S\.) Yr ydym yn parhau ein sylwadau ar Itali; ei hanes yn bresennol fydd testyn ein sylw : rhoddwn fras olwg arni yn ei gwahanol gyfnodau trwy y gwahanol oesau. Mae hanes Itali yn hynod ddyddorol, mae o'r dechreuad wedi eael dylanwad dwfn ac helaeth ar hanes y byd; mae ei rhyfeloedd a'i buddugoliaethau, ei chyfreithiau a'i deddfau, ei ffurfiau llywodraeth a'i chyfundreithiau wedi gadael eu hol ar dudalenau hanesyddiaeth, ac mae i'w weled hyd y dydd heddyw. Mae hane6 cyntefig Itali fel gwledydd ereill yn guddiedig mewn caddug tywyllwch ; nis gellir dywedyd yn awr pwy oedd y trigolion a breswylient y wlad ar y cyntaf; ymddengys eu bod yn wahanol lwythau, ac y byddent yn fynych mewn rhyfel â'u gilydd ; o'r diwedd cododd Rhufain ei phen yn eu plith, yr hon wedi darostwng amryw Iwythaa Itali a oresgynodd holl wledydd y ddaiar, ae a ddaeth yn feistres y byd. Ac felly hanes Rhufain yw hanes Itali. Y bardd Virgil a ganodd am ddyfodîad iEneas, wedi syrthiad Caerdroia, i'r parth hyny o Itali a elwid Latiurn, a'r chwedl yw iddo briodi Lavinia, merch y brenin Latinas, iddo gynnorthwyo ei dad yng nghyfraith i ddarostwng yr oll o Latium o dan ei lywodraeth, ac iddo ar ol ei farwolaeth deyrnasu ar y wlad fel ei olynydd. Ac oddi wrth Ascanius, mab .ÄSneas, y disgynodd Romulus, sylfaenydd Rhufain. Sylfaeniad y ddinas Rhufain yw y cyfnod cyntaf yn hanes Itali, a chyfrifir i hyny gymmeryd lle yn y flwyddyn 753 C.C. Breniniaeth unbenol ydoedd y ffurflywodraeth a sefydlodd Romulus yn ei ddinas newydd; a pharhaodd y 111— Mawrth, 1876.