Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 <$k!hUI Ŵglmpifi. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. Itali. , (Parhâd o dudalen 5.) Yn ein rhifyn diweddaf soniasom am Itali fel gwlad o ran ei chynnyrchion naturiol, ond yn bresennol sylwn ar ei thrigolion. Ei thrigolion, y rhai a rifant o ddeutu chwech. miliwn ar hugain, ydynt un genedl; un yw eu hiaith, ond mae amrywiaeth yn y dull o'i llefaru mewn gwahanol barthau o'r wlad. Mae iddi amryw dafodieithoedd, yr hyn a elwir yn Seisoneg dialects. Y trigolion ydynt olynion gwahanol lwythau, y rhai yn y cyn-oesoedd a'r canol- oesoedd a breswylient y wlad, ac maent yn awr yn cyfansoddi un genedl. Maent yn ddynion hardd eu gwedd; gan mwyaf gwineuddu ydyw eu lliw, ond yn y gogledd ceir rhai ag ydynt wyn a theg eu pryd; lliwiau eu gwynebau sydd hardd a rheolaidd; eu hedrychiad sydd darawiadol; mae iddynt lygaid ysplenydd, llawn o fywyd; eu cyrff sydd luniaidd, ac maent yn fywiog yn en symmudiadau. Mae eu gwragedd yn hynod am eu tegwch a'u harddwch, ond derfydd eu tegwch a'u harddwch yn gynt nag mewn gwragedd a berthynant i genedloedd mwy gogleddol. Nid yw trigolion Itali mor bruddaidd a phwyllog a thrigolion Yspaen, nac mor gyfneẃidiol ac ansefydlog a thrigolion Ffrainc. Maent yn athrylithgaf a chywrain, yn foesgar ac yn foneddigaidd, yn hyawdl a ffraêth, yn gywir a ffyddlawn i'w cyfeillion, ond yn llidus a dialgar pan ddigir hwynt. Meddiannant bob elfen angenrheidiol yn en cymmeriadau naturiol i'w gwneuthnr yn nn o'r cenedloedd blaenaf yn Ewrop, ac nid heb reswm y priodolir yr achos o'u bod ar ol cenedloedd ereill yn en 110—Chwfror, 1876»