Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I íîfatll' êjglûgflifl. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. Itali. Itali sydd wlad hynod ; hi ydyw mewn llawer golygiad y wlad fwyaf hynod o holl wledydd Ewrop; mae yn llawn dyddordeb i hynafiaethwyr a naturiaethwyr, i dduwinyddion ac athronwyr, i gelfyddydwyr a beirdd. Mae yn gorwedd ar lan Môr y Canoldir; golchir ei glanau gan y môr hwnw a'i gangenau o du y gorllewin, y de, a'r dwyrain ; a chylchynir hi gan fynyddoedd yr Alps o du y Gogledd. Mae yn mesur o ddeutu 720 o filltiroedd o hyd, ac o ddeutu 380 o filltiroedd o led, ac mae o ddeutu 120,000 o filìtiroedd yn arwynebol. Mae Anian wedi gwisgo Itali yn ei dillad goreu; mae wedi ei haddurno â'i thegwch prydferthaf; mae rhai o'ì golygfëydd yn swynol tu hwnt i ddychymmyg. Mae Anian yma wedi agor ei llaw yn haelionus, ac wedi gwasgaru ei thrysorau blith draphlith trwy Itali, fel y gellir defnyddio iaith Moses am dani yng nghyleh eti- feddiaeth loseph yn Deut. xxxiii. 13—16, "Ei dir ef sydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd â hyfrydwch y nefoedrì, â gwlith ac â dyfnder yn gorwedd isod ; hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch addfed-ffrwyth y Ueuadau; ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb; ac â byfrydweh y ddaiar ac â'i chyflawnder." A gellir gyda phriodoldeb neillduol gyfeirio y darluniad a rydd Moses o wlad Canaan yn Deut. viii. 7—9 at Itali, lle y dy wedir ei bod yn " wlad dda, yn wlad afonydd dyfroedd, ffynnonau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn ac yn y mynydd ; gwlad gwenith, haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewwydden a mêl, gwlad yn yr hon y bwytëi fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisieu dîm arnat ynddi." 109—Ionaurr, 1876.