Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fífaiîl (Sglujpij, Y DDAIAR A'I THRIGOLION. 8WITZERLAND. (Parhâd o dudalen 291.) Yr ydym yn parhau ein sylwadau ar Switzerland. Yn ein rhifyn diweddaf sylwasom ar y wlad yn ei hynodion naturiol, ond yn bresennol edrychwn arni yn ei hansawdd gymdeithasol a gwladwriaethol. Y trigolion ydynt ddynion tal, hardd, a bywiog, hynod am eu gonestrwydd a'u dewrder, ac yn enwedig am eu hawydd i amddiffyn eu rhyddid gwladol. Yn eu hym- ddygiad maent yn siriol a charedig, glân a threfnus yn eu gwisgoedd, a boddlonsar i'w sefyllfaoedd. Nid ydynt enwog mewn dysgeidiaeth, ond eto dangosir awydd gy- ffredinol ym mhlith gwahanol raddau cymdeithas i ddysg[u darllen ac i gyrhaeddyd elfenau dechreuol gwybodaeth. Maent er y cynoesoedd wedi bod yn enwog mewn arferion a defodau rhyfel; ac feìly, gan y byddai y mynyddoedd yn amddiffynfa i'w gwlad rhag ymosodiadau gelynol eu cym- mydogion cyflogent eu hunain i fyddinoedd estronol, ond cymmaint fyddai eu serch at wlad eu genedigaeth fel y dychwelent gartref i dreulio gweddill eu hoes ar ffrwyth eu gwasanaeth ym mhlith estroniaid. Gwnânt eu tai gan mwyaf o goed ; mae iddynt risiau ceryg i arwain i'r llofft o'r tu allan; maent o wneuthuriaid anghelfydd, ond yn hynod am eu glanweithdra oddi fewn ac oddi allan. Switzerland, fel gwledydd ereill Ewrop, a gyfansoddai ran o Ymherodraeth Rhufain ; ond ar ddymchweliad yr ymherodraeth hòno gwnaethpwyd hi yn rban o deyrnas Burgundy ; ac wedi hyny syrthiodd yn gyntaf dan lyw- odraeth Ffrainc, ac yn nesaf dan lywodraeth Germani; yr oedd iau yr olaf yn hynod drwm a chaethiwus; aeth mor ormesol a gorthrymus fel y gyrwyd y trigolion i 108—Rhagfyr, 1875.