Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^SfaiîI (Sfllwpifl. FFÜRFIAU 0 WEDDIAÜ. Gan fod amry wiaeth barn rhwng Ymneillduwyr ac Eglwys- wyr ar y testyn uchod, a chau ei fod yn dal perthynas â'r Llyfr Gweddi ac ar Addoliad Cyhoeddus, hwyrach mai nid annerbyniol gau ddarllenwyr y Cyfaill fyddai gair neu ddau ar y priodoldeb o gyflwyno ein dymuniadau a'n diolch i Dduw trwy gyfryngau ffurfiau rhag-gyfansoddedig, yn enwedig pan wedi ymgasglu at ein gilydd i fan cys- segredig, gyda'r dybeu o ymuno mewn addoliad cyffredinol a chyhoeddus. Nid ydym yn dymuno creu rhagfarn a fyddo yn niweidiol i'r rhai sydd yn gwahaniaethu oddi wrthym mewn tyb ac arferiad, eto yr ydym yn teimlo mai ein dyledswydd fel Eglwyswyr ydyw peidio ymfoddloni ar fod yn amddifad o resymau cadarn, diysgog, ac anwrth- wynebadwy gyda golwg ar un o'r pethau pwysicaf sydd uid yn unig yng nglŷu â'r Eglwys fel cyfangorff, ond hefyd ag iachawdwriaeth personol pob un o honom, sef y duÜ rawyaf priodol, addas, a theilwng o anerch y Goruchel a'r Dyrchafedig pan fyddo dau neu dri wedi ymgynnull at eu gilydd yn enw Iesu Grist. Cydnabyddir yn gyffredinol, a hyny hyd yn oed gan yr Ymneillduwyr, nas gellir rhoddi addoliad cyhoeddus i Dduw yn yr ysbryd a'r meddwl yn unig heb wneuthur hyny trwy gyfrwng y corff. Rhaid cael arwyddion allanol a gweîedig i droslgwyddo teimladau tufewnol, yn gymmaint a bod dyn yn greadur cyfansawdd; gan hyny, y mae rhyw fath o ffurfiau, a seremonîau hefyd, yn anhebgorol angen- rheidiol mewn Gwasanaeth dwyfol i fod fel arddangosiadau o'r addoliad ysbrydol sydd yn cymmeryd lle yn y galon. Y mae hyn yn eithaf amlwg oddi wrth y ffaith fod Duw yn rhoddi y fath bwysigrwydd ar allanolion crefydd wrth hyfforddi a dysgu yr Eglwys Iuddewig mewn perthynas 107—Tachwedd, 1875.