Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

öfSfaUl ŵjjlwjaij. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PORTÜGAL. Gwlad fechan a theyrnas egwau yw Portugal; cylchynir hi o du y gorllewin a'r de gan Fôr y Werydd, ac o du y dwyrain a'r gogledd gan Yspaen; ac felly mae yn gys- sylltedig ag Yspaen, ac mae'r ddwy wlad yn gwneuthur i fyny un orynys. Mae Portugal yn mesur o ddeutu 360 o filltiroedd o hyd, o ddeutu 120 o filltiroedd o led, ac o ddeutu 40,000 yn arwynebol. Yn yr hen amseroedd gelwid y wlad yn Lusitania, ond yn yr unfed ganrif ar ddeg cafodd yr enw Portugal. Yr hen ddinas Oporto, yr hon sydd borthladd ar yr afon Douro, a elwid Calle, ac â hon y dygid ym mlaen brif fasnach y rhan hòno o'r wlad, a thrwy hyn adnabyddid ym mhlith y masnachwyr y parthau hyny wrth yr enw Porto Calle, yr hwn mewn amser a dalfyrwyd i Portugal, a rhoddwyd yr enw i'r oll o'r deyrnas a adwaenir yn bresennol wrtho. Mae Portugal, fel y gellid dysgwyl, yn dra thebyg i Yspaen yn ansawdd a chynnyrchion y tir, yn hinsoddau yr awyr, ac yn ffurfiad y mynyddoedd a'r dyffrynoedd. Yr afonydd ag sydd yn rhedeg trwyddi i'r môr, megys y Tagus a'r Douro, yn Yspaen mae eu tarddiad. Ond eto ceir ychydig wahaniaeth rhyngddynt. Nid yw Portugal, fe ddîchon, mor fynyddig ag Yspaen, ac nid ymddehgys mor ddiffrwyth a thaleithiau gogleddol Yspaen, nac mor ífrwythlawn a'r taleithiau deheuol. Mae'r hinsawdd yn fwy hyfryd ac iachus na'r rhan fwyaf o Yspaenj mae'r awyr yng nghylch Lisbon, y brif ddinas, mor ddymunol fel y cyrcha cleifion yno o wahanol wledydd i'w fwynhau. Mae poethder yr haf ac oerfel y gauaf yn cael eu tymmeru gan yr awelon o Fôr y Werydd. Mae'r tir yn ffrwythlawn, 105—Medi, 1875.