Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^gfaill ŵglwgaij. GWEDDI MAM A CHLOCH Y LLAN. 0 udeuto deng mlyuedd ar hugain yn ol, ar foreu Sul tawel a theg, yr oedd wyth bachgeu ieuauc, efrydwyr yn dysgu myned yn gyfreithwyr, yn rhodio ar lan afon fechan ag sydd yn rhedeg i lawr i afon fawr y Potomac. Yr oeddynt yn myned i ían dirgel yn y coed i ladd oriau gwerthfawr y Dydd Sanctaidd wrth chwareu cardiau ac yfed gwin. Fel yr oeddynt yu rhodiaua ac yn siarad geiriau ofer a u gilydd, dechreuodd cloch y Llan gauu i alw yr addolwyr yng nghyd ar yr awr weddi. Er eu bod lawn dwy filltir o ffordd oddi wrthi, eto disgyuai ei swn ar glustiau y bcchgyn difraw mor eglur a phe bai yn canu ar eu cyfer yr ochr arall i'r afon. Safodd un o honynt yn ddisymmwth a dywedodd wrth ei gyfaill nad ai ef ddim pellach, ond yr ai yn ol i'r dref, iddo gael myned i'r Èglwys. Ar hyn gwaeddodd ei gyfaill ar y bechgyn ereill y rhai oeddynt ychydig latheui o'r blaen, ;t Fechgyn, fechgyn, dewch yma, mae George yn dechreu myned yn grefyddol. Dewch i ni gael rhoddi help iddo. Dewch, ni a'i bedyddiwu ef yn awr trwy drochiad yn yr afon." Daeth y bechgyn yu ol yn union, ae aethaut yn gylch o gwmpas i George, gan ddywedyd fod yn rhaid iddo fyned gyda hwynt neu gymmeryd ei drochi yn y ffrwd. Dywedodd yntau yn araf a thawel, ond mewn llais difrifol, '■ Mi a wn yn eithaf da eich bod yn ddigon cryf i'm trochi yn yr afon, a'm dal dan y dwfr nes fy moddi, ac os ydych yn dewis cewch wneyd hyny heb i mi godi llaw yn eich erbyn; ond gwrandèwch arnaf yn gyntaf, ac yna gwnewch fel y mynoch. Yr ydych i gyd yn gwybod fy mod yn agos i ddau can milltir o gartref, oud ni wyddoch yr hyn yr wyf yn myned i ddweyd wrthych yn awr, fod 104—Awst, 1875.