Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J| <|g|aill (BjIuigaijB. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. ÍSPAEN. Mae Yspaen a Portugal yn cyfansoddi un gorynys; maent wedi cael eu ffurfio gan natur yn un wlad, ond er hyny maent yn ddwy deyrnas. a chyfanneddir hwynt gan ddwy genedl wahanol. Mae Yspaen yn mesur o ddeutu G4-0 ü filltiroedd o hyd a 530 o filltiroedd o led, ac yn mesur yn arwynebol o ddeutu 37,000 o filltiroedd yn ysgwâr. Cylchynir hi o du y gogledd gan Fôr Biscay a mynyddoedd y Pyrenees, y rhai a'i hysgararjt oddi wrth Ffrainc, o du y gorllewin gan Portugal a Môr y Werydd, ac o du y de a'r dwyrain gan Fôr y Canoldir. Ac felly mae o ran ei sefyllfa yn hynod ffafriol i fasuach y môr; ac yn wir yn tin cyfnod o'i hanes cymmerodd hi a Portugal y blaen mewn morwriaeth ym mhhth teyrnasoedd Ewrop. Yr oedd Yspaen yn hysbys i'r Phoeniciaid gannoedd 0 flynyddoedd cyn amser dyfodiad Crist, a thybia llawer mai'r ynys fechan Tartessus ger llaw Cadiz, yn Yspaeu, a feddylir wrth Tarsis o ba le, fel yr ydym yn darllen yn 1 Bren. x. 22, y dygai llongau unwaith bob tair blynedd aur ac ariau, ac ifori a eppaod a pheunod i'r Brenin Solomon, ac y rhoddid yr enw i'r oll o ddeheubarth Yspaen mewn ystyr gyffredinol. A gelwid y wlad unwaith yn Iberia, ond nid yw yn eglur pa ham y gelwid hi wrth yr enw hwn. Os mai y Phoeniciaid a roddodd yr enw hwn i'r wlad, dichou y gellir ei dreiglo oddi wrth y gair Hebraeg Heber, neu y Gair Hebra yn y Phoeniciaeg neu'r Syriaeg, ystyr yr hwn yn y rhif unigol yw " taith," ac yn y rhif luosog "terfyniad," ac y gelwid y wlad wrth yr enw hwn o blegid mai hi oedd terfyniad teithiau ac anturiaethau y Phoaniciaid ar y môr. Y Groegiaid a'i galweut yn 103—Gorphenaf, 1875.