Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfaill Ẃ0l»í»ifi. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. FFRAINC. {Parhâd o dudalen 117.) Y Chwyldroaü mawr a gymmerodd le yn Ffrainc yn nîwedd y ganrif ddiweddaf oedd testyn ein sylwadau yn ein rhifyn am Mai, ac wrth fyned rhagom yn ein sylwadau presennol ar yr un testyn ni a ystyriwn y driniaeth a gafodd crefydd ynddo. Cyn y Chwyldroad, Pabyddiaeth oedd crefydd sefydledig y deyrnas; ac yr oedd iddi 19 o archesgobaetbau a 118 o esgobaethau, ac offeiriaid a phlwyfi yn gyfatebol i hyny. A thybir fod eu cyllid biynyddol yn cyrhaeddyd o ddeutu 5,687,000 o bunnau. Yr oedd Protestaniaid hefyd yn Ffrainc, ond yr oeddynt oddi ar y Diwygiad Protestanaidd wedi dyoddef erlidigaethau mawrìon yn y wlad ; ac yn amser y Chwyldroad yr oeddynt mewn sefyllfa ddirywiedig. Yr oedd crefydd yn isel ym mhlith pob gradd a sefyllfa o bobl; nid oedd yn ffynu ac yn llewyrchus ym mhlith Pabyddion na Phrotestaniaid. Ni cheid gwybodaeth o Dduw yn y tir; yr oedd moesau y werin yn llygredig, ac yr oedd rhinwedd yn beth dyeithr yn eu plith. Pan yr oedd y gei edl yn y sefyllfa hon cododd anffyddiaeth ei phen ; cafodd wrandawiad astud yng nghlust y werin ; lledaenodd ei hegwyddorion dinystriol; dymchwelodd colofnau cymdeithas, a thaflodd yr holl genedl i annhrefn afreolus; cyfraith a rheol, awdurdod a llywodraeth, a gollwyd yn llwyr am dymmor o blith y bobl; yr oedd y genedl fel llestr ar y cefnfor, heb na llyw, na hwyl, na chwmpawd, yn agored i drugaredd y tònau a'r môr; yr oedd yn hollol ac yn gwbl o dan awdurdod gwyniau afreolus dynion anífyddiol a phechadurus. Yr oedd an- ffyddiaeth wedi dymchwelyd holl seiliau Cymdeithas. 102—Mehefin, 1875.